
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion Annibynnol) (Personau Anaddas) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
2 

(1) Mae gwaith o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi'i ragnodi at ddibenion adran 169 o Ddeddf 2002.
(2) Y math o waith y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) yw unrhyw ffurf ar waith (p'un ai er elw ai peidio)—
(a) y mae'r person (“W”) yn ei wneud yn rheolaidd; a
(b) sy'n rhoi cyfle i W, o ganlyniad i unrhyw beth y caniateir neu y mae'n ofynnol i W ei wneud mewn cysylltiad â'r gwaith, gysylltu â myfyriwr yn y sefydliad neu rywun sy'n blentyn neu'n oedolyn hyglwyf o fewn ystyr “child” neu “vulnerable adult” yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.
(3) At ddibenion paragraff (2), mewn unrhyw gyfnod o 30 o ddiwrnodau, mae W yn gwneud gwaith yn rheolaidd os yw'n gwneud y gwaith ar fwy na dau ddiwrnod yn y cyfnod hwnnw.
3 
Mae'r disgrifiadau canlynol o gyfarwyddiadau, gorchmynion a phenderfyniadau a wnaed o dan y deddfiadau a ragnodwyd, wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 169 o Ddeddf 2002—
(a) gorchymyn o dan adran 100(2)(e) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 (penderfynu cwynion);
(b) penderfyniad i gynnwys person (mewn modd gwahanol i dros dro) yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (rhestr o unigolion sy'n anaddas i weithio gyda phlant);
(c) gorchymyn gan y llys o dan adran 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (datgymhwyso rhag gweithio gyda phlant);
(ch) cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002 a roddir ar y sail bod y person yn anaddas i weithio gyda phlant neu y mae ei effaith yn gwahardd person mewn modd arall rhag cymryd rhan yng ngwaith rheoli ysgol annibynnol (gwahardd rhag addysgu, etc.);
(d) cyfarwyddyd o dan adran 167A o Ddeddf 2002 (gwahardd cymryd rhan yng ngwaith rheoli ysgolion annibynnol );
(dd) penderfyniad i gynnwys person (mewn modd gwahanol i dros dro) yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003 (rhestr o unigolion sy'n anaddas i weithio gyda phlant);
(e) penderfyniad i gynnwys person (mewn modd gwahanol i dros dro) yn y rhestr a gedwir o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 (dyletswydd yr Adran i gadw rhestr);
(f) gorchymyn y llys o dan erthygl 23 neu 24 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 (datgymhwyso oedolion ac ieuaint rhag gweithio gyda phlant);
(ff) penderfyniad i gynnwys person sydd ar restr o bobl waharddedig o fewn ystyr “barred list” yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;
(g) penderfyniad i gynnwys person ar restr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007 (dyletswydd Gweinidogion yr Alban i gadw rhestrau);
(ng) penderfyniad i wahardd person rhag addysgu plant neu weithio gyda phlant o dan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Gwahardd rhag Addysgu Plant neu Weithio gyda Phlant) (Gogledd Iwerddon) 2007;
(h) penderfyniad i gynnwys y person ar restr o bobl waharddedig o fewn ystyr “barred list” yn erthygl 2(1) o Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007; ac
(i) cyfarwyddyd o dan adran 128 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Medi 2009