
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2009.
2 
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
3 

(1) Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 12 Hydref 2009:
(a) adran 169 (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli ysgol annibynnol);
(b) adran 170 (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli: atodol);
(c) adran 171 (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli: darpariaeth drosiannol).
(2) Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 1 Ionawr 2010:
(a) adran 89 ac eithrio is-adran (4);
(b) adran 96(b) i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu is-adrannau (4) i (7) o adran 61 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
(c) adran 184 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a nodir ym mharagraff (ch);
(ch) yn Rhan 6 o Atodlen 18 y diddymiad yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 o adran 61(4) i (7).
4 

(1) Hyd nes y bydd adran 88 o Ddeddf 2006 yn cychwyn—
(a) mae'r cyfeiriad yn adran 89(2)(a) yn Neddf 2006 at adran 88(2)(a) i gael effaith fel pe bai'n gyfeiriad at adran 61(2)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; a
(b) mae'r cyfeiriad yn adran 89(2)(b) yn Neddf 2006 at adran 88(2)(b) i gael effaith fel pe bai'n gyfeiriad at adran 61(2)(b) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
(2) Hyd nes y cychwynnir adran 89(4) o Ddeddf 2006 caniateir i'r mesurau y bydd pennaeth yn eu penderfynu o dan adran 89(1) o Ddeddf 2006 gynnwys gwneud rheolau a darpariaeth ar gyfer eu gorfodi.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Medi 2009