
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—“
(ba) a direction under section 142(8) of the Education Act 2002;”; a
(b) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(1A) The Welsh Ministers may withdraw their approval for a school on the ground that, in the case of that school, it has employed a person who is barred from regulated activity relating to children in accordance with section 3(2) of the Safeguarding Vulnerable Groups Act 2006.”.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001 fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 5 o Atodlen 2—
(a) yn is-baragraff (1), ar ôl “cyfyngir ar eu cyflogi”, mewnosoder “, neu pan yw'n destun cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002, neu wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.”.
4 

(1) Diwygir Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol briodol”—
(a) ar ôl “adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”;
(b) ar ôl “adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”; ac
(c) hepgorer y geiriau “ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno;”.
(3) Yn yr Atodlen, yn is-baragraff (d) o baragraff 4, yn lle'r geiriau “yn gwneud gwaith” rhodder “wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n gwneud gwaith,”.
5 

(1) Diwygir Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol briodol”—
(a) ar ôl “adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”;
(b) ar ôl “adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”; ac
(c) hepgorer y geiriau “ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno;”.
(3) Yn lle paragraff (2) o reoliad 2, rhodder—“
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau at berson a gyflogir mewn ysgol yn gyfeiriad at berson—
(a) sy'n darparu addysg—
(i) mewn ysgol;
(ii) mewn sefydliad addysg bellach;
(iii) o dan gontract cyflogaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau pan fo'r parti arall yn y contract yn awdurdod addysg lleol neu'n berson sy'n arfer swyddogaeth ynglŷn â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol;
(b) sy'n cymryd rhan mewn rheoli ysgol annibynnol; neu
(c) sy'n ymgymryd â gwaith—
(i) sy'n dod â'r person hwnnw i gysylltiad yn rheolaidd â phlant, a
(ii) a gyflawnir ar gais neu gyda chydsyniad cyflogwr perthnasol (pa un ai dan gontract ai peidio).
(3) At ddibenion paragraff (2), ystyr “cyflogwr perthnasol” (“relevant employer”) yw—
(a) awdurdod addysg lleol;
(b) person sy'n arfer swyddogaeth ynglŷn â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol;
(c) perchennog ysgol; neu
(ch) corff llywodraethu sefydliad addysg bellach.”.
6 
Yn Atodlen 5 i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005—
(a) ar ôl is-baragraff (b) o baragraff 9, mewnosoder—“(ba) wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 ;(bb) yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002;”; a
(b) ym mharagraff 12, yn lle “113” rhodder “113B”.
7 

(1) Diwygir Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer y diffiniad o “datganiad o addasrwydd plant”; a
(ii) yn y man priodol, mewnosoder—“
 mae i “tystysgrif cofnod troseddol fanwl” yr ystyr a roddir i “enhanced criminal record certificate” yn adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997, sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno;”; a
(b) yn is-baragraff (c) o baragraff (3), yn lle “heb fod yn”, rhodder “heb ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu os nad yw'n”.
(3) Ym mharagraff (2) o reoliad 9A a pharagraff (2) o reoliad 20A, hepgorer “, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath”.
(4) Yn rheoliad 15A—
(a) yn is-baragraff (a)(ii) o baragraff (1), hepgorer “ynghyd â datganiad o addasrwydd plant”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “llai” rhodder “mwy”; ac
(c) ym mharagraff (6) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) gwiriad i ganfod a yw person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;”.
(5) Yn rheoliadau 18A a 26A, hepgorer “, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath”.
(6) Yn rheoliad 24A—
(a) yn is-baragraff (a)(ii) o baragraff (1), hepgorer “ynghyd â datganiad o addasrwydd plant”; a
(b) ym mharagraff (2), yn lle “llai” rhodder “mwy”.
8 

(1) Diwygir Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer y diffiniad o “datganiad addasrwydd plant”, a
(ii) yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol fanwl”, ar ôl “1997”, mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”, a
(iii) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Er mwyn gwneud gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol, rhaid i berson wneud cais am, a chael, tystysgrif cofnod troseddol fanwl.”.
(3) Ym mharagraff (ch) o reoliad 5, ar ôl “gwirio a”, mewnosoder “yw wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”.
(4) Yn rheoliad 13, hepgorer “bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a”.
(5) Yn is-baragraff (ii) o baragraff (b) o reoliad 17, hepgorer “bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a”.
(6) Ym mharagraff (ch) o reoliad 18, ar ôl “gwiriad i gadarnhau a”, mewnosoder “yw wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”.
(7) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 3 o Ran 1, yn lle “a yw'r person yn”, rhodder “a yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”, a
(b) ym mharagraff 2 o Ran 2—
(i) yn is-baragraff (b), yn lle “a yw'r person yn”, rhodder “a yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”, a
(ii) yn is-baragraff (dd)(ii), yn lle “wedi'i gwneud a bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno” rhodder “wedi ei wneud”.
Jane Hutt
Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Medi 2009