
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae darpariaethau canlynol Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, yn dod i rym ar 1 Hydref 2009—
(a) adran 126 (cyfeirio materion trosedd ac anhrefn at bwyllgorau trosedd ac anhrefn, etc.);
(b) y cofnod yn Rhan 6 o Atodlen 18 (diddymiadau) sy'n ymwneud â Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p.48); ac
(c) adran 241(diddymiadau) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cofnod a bennir yn (b) uchod.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2009