
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2009. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Medi 2009.
2 
Yn rheoliad 2 (Dehongli) o Reoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008 yn lle'r diffiniad o “samplau rheoli swyddogol” rhodder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “samplau rheoli swyddogol” (“official control samples”) yw samplau a gymerir gan Weinidogion Cymru o dan unrhyw un o'r canlynol—
(a) pwynt 2.1.2.2 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1003/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau bridio o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;
(b) pwynt 2.1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1168/2006 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau dodwy o Gallus gallus ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1003/2005, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd; neu
(c) pwynt 1(b) ac (c) o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 646/2007 sy'n gweithredu Rheoliad 2160/2003 o ran targed Cymunedol ar gyfer gostwng nifer yr achosion o seroteipiau salmonela penodol mewn heidiau o frwyliaid Gallus gallus ac yn diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1091/2005, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Medi 2009