
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2009 a deuant i rym ar 28 Medi 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007; a
(b) ystyr “y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Suport Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
2 

(1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987) wedi'i diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nhabl A, yn yr addasiadau sy'n ymwneud â rheoliad 66A o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (trin benthyciadau i fyfyrwyr) yn y cofnod cyntaf, yn lle “Guide to Student Support issued by the Student Awards Agency for Scotland 2007–2008” rhodder “Student Support Information Guide 2009–2010 issued by the Student Awards Agency for Scotland”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Medi 2009