
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2009.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007.
2 
Diwygir y prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(1) Dileer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 80/777”; a
(2) yn union ar ôl y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2003/40” mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “Cyfarwyddeb 2009/54” (“Directive 2009/54”) yw Cyfarwyddeb 2009/54 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddatblygu a marchnata dyfroedd mwynol naturiol ;”;
(3) yn lle'r diffiniad o “dŵr mwynol naturiol” rhodder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “dŵr mwynol naturiol” (“natural mineral water”) yw dŵr—
(a) sy'n iachus yn ficrobiolegol;
(b) sy'n tarddu o lefel trwythiad neu ddyddodion tanddaearol ac sy'n codi allan o ffynnon a dapiwyd mewn allanfa neu allanfeydd naturiol neu wedi'u tyllu;
(c) y gellir ei wahaniaethu'n amlwg oddi wrth dŵr yfed cyffredin oherwydd y nodweddion canlynol a gafodd eu cadw'n ddifreg oherwydd tarddiad tanddaearol y dŵr a rhaid bod y tarddiad hwnnw wedi cael ei ddiogelu rhag pob risg o lygredd—
(i) ei natur, a nodweddir gan ei gynnwys mwynol, elfennau hybrin neu ansoddau eraill a, pan fo hynny'n briodol, gan effeithiau penodol, a
(ii) ei purdeb gwreiddiol; ac
(ch) sydd am y tro'n cael ei gydnabod yn unol â rheoliad 4;”
4 

(1) Ym mhob un o'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), yn lle'r cyfeiriad at “Cyfarwyddeb 80/777” rhodder cyfeiriad at “Cyfarwyddeb 2009/54”.
(2) Y darpariaethau yw rheoliad 2(2) a (3) a rheoliad 4(1)(b) ac (c) ac (8) (cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiol).
5 
Yn rheoliad 8 (marcio, labelu a hysbysebu dŵr mwynol naturiol)—
(1) yn lle paragraff 1(c) rhodder y paragraff a ganlyn—“
(c) unrhyw fynegiad, dynodiad, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n ffigurol ai peidio, y mae'r defnydd ohonynt yn awgrymu nodweddion nad yw'r dŵr yn meddu arnynt, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i'w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu;”;
(2) yn lle paragraff (1)(f) rhodder y paragraff a ganlyn—“
(f) disgrifiad gwerthu heblaw—
(i) yn achos dŵr mwynol naturiol eferw, un o'r canlynol, fel y bo'n briodol—(aa) “naturally carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu yr un ag a geir wrth y ffynhonnell, gan gymryd i ystyriaeth pan fydd yn briodol ailgyflwyno mesur o garbon deuocsid o'r un lefel trwythiad neu ddyddodion cyfatebol i'r hyn a ollyngir yng nghwrs y gweithrediadau hynny ac yn ddarostyngedig i'r goddefiannau technegol arferol,(bb) “natural mineral water fortified with gas from the spring” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o'r un lefel trwythiad neu'r un dyddodion ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu yn fwy nag a geir wrth y ffynhonnell, neu(cc) “carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr yr ychwanegwyd carbon deuocsid ato o darddiad heblaw'r lefel trwythiad neu'r dyddodion y daw'r dŵr ohono; a
(ii) yn achos dŵr mwynol naturiol heblaw dŵr mwynol naturiol eferw, “natural mineral water””; a
(3) yn lle paragraff (4) rhodder y paragraff a ganlyn—“
(4) Ni chaiff neb hysbysebu unrhyw ddŵr mwynol naturiol o dan unrhyw fynegiad, dynodiad, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, p'un ai'n ffigurol ai peidio, y mae'r defnydd ohonynt yn awgrymu nodweddion nad yw'r dŵr yn meddu arnynt, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i'w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu.”.
6 
Yn rheoliad 9 (gwerthu dŵr mwynol naturiol) yn lle paragraff (2)(c) rhodder y paragraff a ganlyn—“
(c) pan fo cyfanswm cyfrif cytref y dŵr hwnnw y gellir ei adfywio'n fwy na'r hyn fyddai canlyniad cynnydd normal yn y cyfrif bacteriol a oedd ganddo yn y ffynhonnell; neu”.
7 
Yn Atodlen 4 (gofynion datblygu a photelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon)—
(1) Yn lle paragraff 4 rhodder y paragraff a ganlyn—“
4 
Rhaid i'r amodau ar gyfer datblygu, yn enwedig, y cyfarpar golchi a photelu, fodloni gofynion hylendid. Yn benodol, rhaid bod y cynwysyddion wedi'u trin neu eu gweithgynhyrchu mewn modd sy'n osgoi effeithiau andwyol ar nodweddion microbiolegol a chemegol y dŵr naturiol.”
(2) yn lle paragraff 5(3) rhodder y paragraff a ganlyn—“
(3) Caniateir i ddŵr a ddosberthir i'r defnyddiwr olaf mewn potel wedi'i marcio neu wedi'i labelu â'r disgrifiad “dŵr ffynnon” gael ei gludo o'r ffynnon i'r man potelu mewn cynhwysydd nad yw ar gyfer ei ddosbarthu i'r defnyddiwr olaf os cludwyd dŵr o'r ffynnon honno yn y fath fodd ar 13 Rhagfyr 1996 neu cyn hynny.”; a
(3) yn lle paragraff 8 rhodder y paragraff a ganlyn—“
8 
Yn ei ffynhonnell ac yn ystod ei farchnata, rhaid i'r dŵr fod yn rhydd rhag—
(a) parasitiaid a micro organebau pathogenig;
(b) Escherichia coli a chlorifformau a streptococi ysgarthol eraill mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir;
(c) anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50 ml a archwilir; ac
(ch) Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250 ml a archwilir.”.
8 
Diwygir testun Cymraeg y Rheoliadau fel a ganlyn—
(1) yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “dŵr yfed” dileer y geiriau ““spring water neu” yn is-baragraff (b);
(2) yn rheoliad 5(2), yn lle'r geiriau “gallai potelu'r dŵr gydymffurfio” rhodder y geiriau “y byddai potelu'r dŵr yn cydymffurfio”
(3) yn rheoliad8(1)(dd) dileer y geiriau ““may be diuretic” neu” a'r geiriau ““may be laxative” neu”
(4) yn rheoliad 8(1)(e) dileer y geiriau ““stimulates digestion” neu” a'r geiriau ““may facilitate the hepato-biliary functions” neu” ;
(5) yn rheoliad 9(1), dileer y geiriau ““natural mineral water” neu”;
(6) yn rheoliad 10(1), dileer y geiriau ““spring water””
(7) yn rheoliad 11, dileer y geiriau ““spring water” neu” ym mha le bynnag y digwyddant;
(8) yn rheoliad 12, y geiriau dileer y geiriau ““spring water” neu” ym mha le bynnag y digwyddant;
(9) yn rheoliad 14, dileer y geiriau ““mineral water” neu” ym mha le bynnag y digwyddant.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Gorffennaf 2009