
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Garddwriaeth Cymru (Diddymu) 2009 a daw i rym ar 1 Awst 2009.
2 
Ar 1 Awst 2009 diddymir CGC a bydd—
(a) pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth CGC a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo i Brifysgol Glyndŵr, sef corff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol;
(b) pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth CGC a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen yn cael ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo i Brifysgol Glyndŵr a Choleg Glannau Dyfrdwy i'w dal ar ymddiried iddynt eu hunain fel tenantiaid ar y cyd mewn cyfrannau cyfartal ac ar ymddiried i'w defnyddio at ddibenion elusennol sydd at ddibenion addysgol yn unig;
(c) pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall CGC sydd heb ei gynnwys neu ei chynnwys ym mharagraffau (a) a (b) o'r Erthygl hon yn cael ei drosglwyddo neu ei throsglwyddo i Goleg Glannau Dyfrdwy.
3 
Bydd adran 26(2), (3) a (4) o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw berson sy'n gyflogedig gan CGC yn union cyn 1 Awst 2009 fel petai'r cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae'r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriad at berson sy'n gyflogedig fel hynny;
(b) at y dyddiad gweithredol yn gyfeiriadau at 1 Awst 2009;
(c) at y trosglwyddwr yn gyfeiriadau at CGC;
(ch) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Goleg Glannau Dyfrdwy, ac eithrio mewn perthynas â'r cyflogeion hynny a ddynodir yn Rhan 3 o'r Atodlen (“Cyflogeion Rhan 3”);
(d) at y gorfforaeth mewn perthynas â'r Cyflogeion Rhan 3 yn gyfeiriadau at Brifysgol Glyndŵr.
J Griffiths
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
9 Gorffennaf 2009
YR ATOD EN
Erthyglau 2 a 3
RHAN 1
1 
Y buddiant sy'n codi, yn ddarostyngedig i'r baich, a phob hawl a rhwymedigaeth sy'n deillio o gytundeb a wnaed rhwng (1) Coleg Garddwriaeth Cymru a (2) Prifysgol Morgannwg neu mewn cysylltiad â'r cytundeb hwnnw, dyddiedig 6 Chwefror 2007.
2 
Pob buddiant a phob hawl a rhwymedigaeth cysylltiedig CGC yn laneurgain Sir y Fflint a ddangosir yn fanylach ag ymyl du a chroeslinellau ar y plan sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn hwn, sef rhan o'r tir a gynhwyswyd mewn cytundeb dyddiedig 1 Hydref 2000 a wnaed rhwng (1) Cyngor Sir y Fflint (2) Y Cyngor Trosglwyddo Addysg a (3) Coleg Garddwriaeth Cymru, ynghyd â'r adeiladau sydd ar y tir hwnnw.
3 
Pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall CGC a ddefnyddir, a fwynheir ac yr eir iddo neu iddi'n unig i ddarparu addysg uwch a gwasanaethau cysylltiedig o'r tir a'r fangre a ddisgrifiwyd uchod neu sy'n deillio ohonynt [neu fel arall].
RHAN 2
4 
Pob buddiant a phob hawl a rhwymedigaeth cysylltiedig CGC mewn tir yn laneurgain Sir y Fflint a ddangosir yn fanylach ag ymyl du a chroeslinellau ar y plan sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn hwn, sef rhan o'r tir a gynhwyswyd mewn cytundeb dyddiedig 31 Hydref 2000 a wnaed rhwng (1) Cyngor Sir y Fflint (2) Y Cyngor Trosglwyddo Addysg a (3) Coleg Garddwriaeth Cymru gan gynnwys y cyfan o'r tir a gofrestrwyd yn y Gofrestrfa Tir, Swyddfa Cymru o dan rif teitl CYM12524 a'r cyfan o'r tir a gofrestrwyd yn y Gofrestrfa Tir, Swyddfa Cymru o dan deitl Rhif WA613240.
5 
Pob eiddo, hawl a rhwymedigaeth arall CGC a ddefnyddir, a fwynheir neu yr eir iddo neu iddi i ddarparu addysg bellach ac uwch a gwasanaethau cysylltiedig o'r tir a ddisgrifiwyd uchod neu sy'n deillio ohono.
RHAN 3

 Richard Martin Lewis
 Mark Birtles Simkin
 David Skidmore
 Peter Edward Styles
 Nicola Sweeting
 Angela Winstanley
 Tamsin Jane Young

