
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009, a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r canlynol—
(a) arbelydru drwy ddyfeisiau mesur neu arolygu ar lefel uchaf o—
(i) 10MeV yn achos pelydrau-X;
(ii) 14MeV yn achos niwtronau; neu
(iii) 5MeV mewn achosion eraill,
pan na fo'r dogn ymbelydredd ïoneiddio sy'n cael ei amsugno yn fwy na 0.01Gy yn achos dyfeisiau arolygu sy'n defnyddio niwtronau a 0.5Gy mewn achosion eraill; neu
(b) arbelydru bwyd a baratoir o dan oruchwyliaeth feddygol i gleifion y mae arnynt angen deietau sterilaidd.
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “a arbelydrir”, “a arbelydrwyd”, “arbelydrwyd”, “cael ei arbelydru” ac “wedi'i arbelydru” (“irradiated”) yw cael ei drin ag ymbelydredd ïoneiddio, a rhaid dehongli ymadroddion tebyg yn unol â hynny;
 mae “a gymeradwywyd”, “wedi'i gymeradwyo” ac “wedi'u cymeradwyo” (“approved”) yn cynnwys “trwyddedig” ac “wedi'i drwyddedu” (“licensed”);
 ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
 mae “cymeradwyaeth” (“approval”) yn cynnwys trwydded;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu, cynnig, arddangos a hysbysebu i werthu, a rhaid dehongli “gwerthu” (“sale”) yn unol â hynny;
 ystyr “mewnforio” (“import”) yw cyflwyno o Aelod-wladwriaeth arall neu o wlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd;
 ystyr “Rhif cyfeirnod swyddogol” (“official reference number”) mewn perthynas â chyfleuster mewn Aelod-wladwriaeth yw'r Rhif cyfeirnod a ddyrennir gan yr Aelod-wladwriaeth mewn cysylltiad â chael ei gymeradwyo fel cyfleuster arbelydru (sef y Rhif a ddangosir ar ei gyfer yn y rhestr yn Atodlen 3);
 ystyr “trwydded” (“licence”), ac eithrio yn rheoliad 7(a)(ii)(bb), yw trwydded a roddir gan yr Asiantaeth yn unol ag Atodlen 2 i berson ac i gyfleuster i arbelydru bwyd a rhaid dehongli “ei drwyddedu”, “trwyddedig” ac “wedi'i drwyddedu” (“licensed”) a “trwyddedai” (“licensee”) yn unol â hynny;
 ystyr “ymbelydredd ïoneiddio” (“ionising radiation”) yw unrhyw belydrau gama, pelydrau-X neu ymbelydriadau corffilaidd sy'n gallu cynhyrchu ïonau naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “bwyd a arbelydrwyd yn briodol” (“properly irradiated food”) yw bwyd—
(i) a oedd naill ai wedi'i arbelydru ar ei ben ei hun neu fel rhan o swp bwyd yr oedd pob eitem ynddo yn fwyd a oedd yn dod o fewn yr un categori bwyd a ganiatawyd; a
(ii) na chafodd ei arbelydru'n ormodol,
ac mae'n rhaid dehongli “arbelydru priodol” (“proper irradiation”) yn unol â hynny;
(b) bwyd sy'n dod o fewn categori a ganiateir o ran bwyd, pan fo dim llai na 98 y cant ohono yn ôl pwysau (gan hepgor pwysau unrhyw ddŵr a ychwanegwyd) yn dod o fewn y categori hwnnw, ac ystyr “eitem” (“item”), mewn perthynas â swp bwyd, yw pob eitem yn y swp hwnnw sydd wedi'i bwriadu i fod yn eitem y gellir ei gwerthu bob yn un;
(c) y categorïau bwyd a ganiateir yw—
(i) ffrwythau;
(ii) llysiau;
(iii) grawnfwydydd;
(iv) bylbiau a chloron;
(v) perlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu;
(vi) pysgod a physgod cregyn; a
(vii) dofednod;
(ch) yn y categorïau bwyd a ganiateir—
(i) mae “ffrwythau” (“fruit”) yn cynnwys ffyngau, tomatos a rhiwbob ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;
(ii) nid yw'r term “llysiau” (“vegetables”) yn cynnwys ffrwythau, grawnfwydydd, bylbiau a chloron, na pherlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu ond mae'n cynnwys corbys;
(iii) ystyr “bylbiau a chloron” (“bulbs and tubers”) yw tatws, iamau, winwns, sialóts a garlleg;
(iv) mae “pysgod a physgod cregyn” (“fish and shellfish”) yn cynnwys llyswennod, cramenogion a molysgiaid ond heb fod yn gyfyngedig iddynt; a
(v) ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, gwyddau, hwyaid, ieir gini, colomennod, soflieir a thyrcwn;
(d) mae bwyd wedi'i arbelydru'n ormodol naill ai pan fo'r dogn cyfartalog cyffredinol o ymbelydredd ïoneiddio a amsugnwyd ganddo, o'i fesur yn unol ag Atodlen 1, yn fwy na, yn achos—
(i) ffrwythau, 2 kGy;
(ii) llysiau, 1 kGy;
(iii) grawnfwydydd, 1 kGy;
(iv) bylbiau a chloron, 0.2 kGy;
(v) perlysiau, sbeisys a sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu, 10 kGy;
(vi) pysgod a physgod cregyn, 3 kGy; neu
(vii) dofednod, 7 kGy,
neu pan fo un o'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3) yn gymwys.
(3) Yr amgylchiadau yw bod y dogn uchaf o ymbelydredd ïoneiddio a amsugnwyd gan y bwyd, neu gan unrhyw fwyd yn yr un swp, o'i fesur yn unol ag Atodlen 1—
(a) yn fwy na theirgwaith y dogn isaf a amsugnwyd ganddo; neu
(b) yn fwy nag 1.5 gwaith y dogn cyfartalog cyffredinol a bennir ar gyfer y bwyd ym mharagraff (2)(d).
4 

(1) Wrth baratoi bwyd, ni chaiff neb ei arbelydru nac arbelydru unrhyw ran ohono oni bai—
(a) bod y person hwnnw wedi'i drwyddedu;
(b) ei fod mewn cyflwr iachusol addas; ac
(c) ei fod wedi'i arbelydru'n unol â'r Rheoliadau hyn ac unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded.
(2) Mae Atodlen 2 yn cael effaith mewn perthynas â thrwyddedau.
5 

(1) Ni chaiff neb fewnforio unrhyw fwyd a arbelydrwyd i Gymru er mwyn ei werthu oni bai—
(a) ei fod yn dod o fewn categori bwyd a ganiateir;
(b) ei fod wedi'i arbelydru yn un o'r cyfleusterau a restrir yn y Tabl yn—
(i) Atodlen 3, a bod hwnnw ym mhob achos yn gyfleuster mewn Aelod-wladwriaeth sydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer arbelydru bwydydd a chynhwysion bwydydd gan yr Aelod-wladwriaeth o dan sylw; neu
(ii) Atodlen 4, a bod hwnnw ym mhob achos yn gyfleuster mewn gwlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd ac yn un sydd wedi'i gymeradwyo gan y Gymuned;
(c) ei fod yn fwyd sydd wedi'i arbelydru'n briodol; ac
(ch) pan fo wedi'i arbelydru mewn Aelod-wladwriaeth arall, bod gydag ef ddogfennau sy'n cynnwys—
(i) naill ai enw a chyfeiriad y cyfleuster a wnaeth yr arbelydru, neu ei rif cyfeirnod swyddogol; a
(ii) yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 9(1)(a) i (ch) a (2)(ch) o Ran 3 o Atodlen 2; neu
(d) pan fo wedi'i arbelydru y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd—
(i) bod gydag ef ddogfennau—(aa) sy'n dangos enw a chyfeiriad y cyfleuster lle arbelydrwyd y bwyd; a(bb) sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 9(1) o Ran 3 o Atodlen 2;
(ii) yn achos bwyd heblaw perlysiau, sbeisys neu sesnadau llysieuol aromatig wedi'u sychu—(aa) ei fod wedi'i arbelydru gan berson a gymeradwywyd, o dan gyfeirnod y gellir adnabod y gymeradwyaeth drwyddo, gan awdurdod cymwys yn y wlad yr oedd wedi'i arbelydru ynddi;(bb) bod y gymeradwyaeth yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio'r dull mesur a bennir yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r bwyd y mae'r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef; ac(cc) bod gweithredu'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn y wlad honno ynglŷn ag arbelydru bwyd yn diogelu iechyd dynol i raddau nad ydynt yn llai nag i ba raddau y mae iechyd dynol yn cael ei ddiogelu drwy weithredu'r Rheoliadau hyn, a
(iii) ei fod yn cydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i'r bwyd.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd sydd wedi dod (yn ogystal â bwyd nad yw wedi dod) yn gynhwysyn bwyd arall.
(3) Ym mharagraff (1)(d)(iii) mae'r ymadrodd “amodau sy'n gymwys i'r bwyd” i'w ddehongli'n unol â'r ymadrodd “the conditions which apply to the foodstuffs” yn Erthygl 9(1) o Gyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio.
6 

(1) Ni chaiff neb storio na chludo unrhyw fwyd a arbelydrwyd er mwyn ei werthu—
(a) onid yw'r person hwnnw wedi'i drwyddedu mewn perthynas â'r bwyd; neu
(b) onid yw'r person hwnnw heb ei drwyddedu mewn perthynas â'r bwyd ac —
(i) pan fo'r bwyd wedi'i fewnforio i Gymru, bod gydag ef ddogfennau, neu gopïau o'r dogfennau, sy'n ofynnol mewn perthynas ag ef o dan reoliad 5(1)(ch) neu (d)(i); neu
(ii) pan fo'r arbelydru wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig, bod gydag ef ddogfennau sy'n cynnwys datganiad bod y bwyd wedi'i arbelydru a dogfen neu gopi sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 9(1)(a) i (ch) a (2) o Ran 3 o Atodlen 2.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fwyd sydd wedi dod (yn ogystal â bwyd nad yw wedi dod) yn gynhwysyn bwyd arall.
7 
Ni chaiff neb werthu bwyd sydd wedi'i arbelydru neu fwyd y mae unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru—
(a) oni bai bod—
(i) yr arbelydru wedi digwydd yng Nghymru ac y cydymffurfiwyd â rheoliad 4 ac Atodlen 2 ac unrhyw amodau a oedd ynghlwm wrth y drwydded; neu
(ii) yr arbelydru wedi digwydd yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, neu'r Alban a chydymffurfiwyd(aa) â'r darpariaethau a oedd yn cael effaith yno, ac a oedd yn cyfateb i reoliad 4 ac Atodlen 2; a(bb) ag unrhyw amodau trwydded i arbelydru bwyd a ddyroddwyd yno; neu
(iii) y bwyd wedi'i fewnforio i Gymru ac y cydymffurfiwyd â rheoliad 5; a
(b) oni chydymffurfiwyd, pan fo wedi'i storio neu wedi'i gludo, â rheoliad 6.
8 

(1) Ni chaiff neb fewnforio i Gymru, na storio na chludo at ddibenion gwerthu na gwerthu bwyd sydd wedi'i arbelydru, na bwyd sy'n cynnwys cynhwysyn wedi'i arbelydru, nad yw'n barod i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliadau arlwyo oni bai bod y dogfennau sy'n mynd gyda'r bwyd—
(a) yn priodoli'r gair “irradiated” neu'r geiriau “treated with ionising radiation” i'r bwyd neu'r cynhwysyn, yn ôl y digwydd; a
(b) yn cynnwys naill ai enw a chyfeiriad y cyfleuster lle gwnaed yr arbelydru, neu ei rif cyfeirnod swyddogol.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, ffreutur, caffi, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu un symudol) lle mae bwyd wedi'i baratoi, wrth gynnal busnes, i'w gyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac yn barod i'w fwyta heb waith paratoi pellach;
(b) ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate consumer”) yw unrhyw berson sy'n prynu ac eithrio—
(i) at ddibenion ailwerthu;
(ii) at ddibenion sefydliad arlwyo; neu
(iii) at ddibenion busnes gweithgynhyrchu.
9 

(1) Rhaid i'r Asiantaeth orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn dod i ran trwyddedai i ufuddhau iddynt.
(2) Rhaid i'r Asiantaeth a phob awdurdod bwyd yn ei ardal orfodi bob un ddarpariaethau rheoliad 4 i'r graddau y deuant i ran unrhyw berson heblaw trwyddedai i ufuddhau iddynt.
(3) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi yn ei ardal ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn ac eithrio i'r graddau y maent i'w gorfodi o dan baragraff (1) neu (2).
(4) Rhaid i bob awdurdod sy'n ymwneud â gweinyddu'r Rheoliadau hyn roi i bob awdurdod arall sy'n ymwneud felly unrhyw gymorth a gwybodaeth y mae angen rhesymol eu cael ar yr awdurdod arall hwnnw at ddibenion ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.
10 

(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, neu sydd, at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn gwneud unrhyw ddatganiad anwir neu'n defnyddio unrhyw ddogfen sy'n cynnwys datganiad anwir naill ai'n ddi-hid neu gan wybod ei fod yn anwir, yn euog o dramgwydd ac yn agored—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu i'r ddau; a
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
(2) Bydd unrhyw drwyddedai sy'n mynd yn groes i unrhyw un o amodau'r drwydded, neu'n methu â chydymffurfio â hwy, yn euog o dramgwydd ac yn agored—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu i'r ddau; a
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
11 

(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiad bod bwyd wedi'i fwriadu ibobl ei fwyta);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), gyda'r addasiad y bydd is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran tramgwydd o fynd yn groes i reoliad 4, 5, 6, 7, neu 8 o'r Rheoliadau hyn fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15;
(d) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(dd) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);
(f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);
(ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd);
(g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll);
(ng) adran 58(1) (sy'n ymwneud â dyfroedd tiriogaethol).
(2) Mae adran 9 (arolygu bwyd dan amheuaeth ac ymafael ynddo) o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai bwyd yr oedd yn dramgwydd i'w werthu oddi tanynt yn fwyd a fethodd â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
(3) Mae adran 34 (sy'n ymwneud â therfynau amser ar gyfer dechrau erlyniadau) o'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.
12 

(1) I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae Rheoliadau Bwyd (Rheoli Arbelydru) 1990 wedi'u dirymu.
(2) Mae rheoliadau 2 i 16 o Reoliadau Darpariaethau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2001 wedi'u dirymu.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Gorffennaf 2009
ATODLEN 1
Rheoliad 3(2)(d) a (3) ac Atodlen 2, Rhan 1, paragraffau 1(e) a 2(1)
(Mae'r Atodlen hon yn gosod (gyda chywiriad ym mharagraff 1(5)) ddarpariaethau Atodiad III i Gyfarwyddeb 1999/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi'u trin ag ymbelydredd ïoneiddio)

1 

(1) Gellir rhagdybio at ddibenion penderfynu iachusrwydd bwydydd sydd wedi'u trin â dogn cyfartalog cyffredinol o 10kGy neu lai fod pob effaith gemegol ymbelydredd yn amrediad y dogn penodol hwnnw yn gymesur â'r dogn hwnnw.
(2) Mae 146 r dogn cyfartalog cyffredinol, , wedi'i ddiffinio gan yr integryn canlynol dros gyfaint cyfan y nwyddau:
 
 acMmâs cyfan y sampl a driniwydpy dwysedd lleol yn y pwynt (x,y,z)dy dogn a amsugnwyd yn lleol yn y pwynt (x,y,z)dV= dx dy dz, yr elfen gyfaint orfychan a gynrychiolir mewn achosion real gan y ffracsiynau cyfaint.
(3) Gellir penderfynu'r dogn cyfartalog cyffredinol a amsugnwyd yn uniongyrchol ar gyfer cynhyrchion cydryw neu ar gyfer swmp-nwyddau o ddwysedd ymddangosol cydryw drwy ddosbarthu nifer digonol o ddosimetrau yn strategol ac ar hap ledled cyfaint y nwyddau. O ddosbarthiad y dogn a benderfynir yn y modd hwn gellir cyfrifo cyfartaledd a hwnnw yw'r dogn cyfartalog cyffredinol a amsugnwyd.
(4) Os bydd siâp cromlin dosraniad y dogn drwy'r cynnyrch cyfan yn dra phendant, bydd safleoedd y dogn isaf ac uchaf yn hysbys. Gellir defnyddio mesuriadau o ddosraniad y dogn yn y ddau safle hwn mewn cyfres o samplau o'r cynnyrch i roi amcangyfrif o'r dogn cyfartalog cyffredinol.
(5) Mewn rhai achosion, bydd gwerth cymedrig gwerthoedd cyfartalog y dogn isaf (min) a'r dogn uchaf (max) yn amcangyfrif da o'r dogn cyfartalog cyffredinol: h.y., yn yr achosion hyn:
 
 
2 

(1) Cyn bod gwaith arbelydru arferol ar gategori penodol o fwydydd yn dechrau mewn cyfleuster ymbelydru, mae lleoliadau'r dognau isaf ac uchaf i'w penderfynu drwy wneud mesuriadau o'r dognau ledled cyfaint y cynnyrch. Rhaid i'r mesuriadau dilysu hyn gael eu gwneud nifer addas o weithiau (e.e. 3-5) er mwyn lwfio ar gyfer amrywiadau yn nwysedd neu geometreg y cynnyrch.
(2) Rhaid ail-wneud mesuriadau pryd bynnag y newidir y cynnyrch, ei geometreg neu'r amodau arbelydru.
(3) Yn ystod y broses, bydd mesuriadau rheolaidd o'r dogn yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau nad eir dros derfynau'r dogn. Dylai'r mesuriadau gael eu gwneud drwy osod dosimetrau yn safleoedd y dogn uchaf neu'r dogn isaf, neu ar safle cyfeirio. Rhaid i'r dogn ar y safle cyfeirio fod yn gysylltiedig o ran maint â'r dogn uchaf a'r dogn isaf. Dylid lleoli'r safle cyfeirio ym mhwynt cyfleus yn y cynnyrch neu arno,lle mae'r amrywiadau mewn dogn yn isel.
(4) Rhaid gwneud mesuriadau rheolaidd o'r dognau ar bob swp a phob hyn a hyn yn rheolaidd yn ystod y broses gynhyrchu.
(5) Mewn achosion lle y mae nwyddau sy'n llifo ac sydd heb eu pecynnu yn cael eu harbelydru, ni ellir penderfynu lleoliadau'r dognau isaf ac uchaf. Mewn achos o'r fath, mae'n well defnyddio dull hapsamplu â dosimetr i ganfod gwerthoedd eithafion y dognau hynny.
(6) Dylid gwneud y mesuriadau o'r dognau drwy ddefnyddio systemau dosimetreg cydnabyddedig, a dylai fod modd olrhain y mesuriadau yn ôl safonau sylfaenol.
(7) Yn ystod y broses arbelydru, rhaid i barametrau penodol y cyfleuster gael eu rheoli a'u cofnodi'n barhaus. Ar gyfer cyfleusterau radioniwclid, mae'r parametrau'n cynnwys cyflymder cludo'r cynnyrch neu'r amser sy'n cael ei dreulio yn y parth ymbelydredd ac arwydd cadarnhaol bod safle'r ffynhonnell yn gywir. Ar gyfer cyfleusterau cyflymu, mae'r parametrau'n cynnwys cyflymder cludo cynnyrch a lefel ynni, cerrynt electronau a lled sganiwr y cyfleuster.
ATODLEN 2
Rheoliadau 4(2), (5)(1)(ch)(ii) a (d)(i)(bb), 6(1)(b)(ii) a 7(a)(i) a (ii)(aa)
RHAN 1
1 
Rhaid i berson sy'n ceisio cael trwydded i arbelydru bwyd (“y ceisydd”) wneud cais drwy anfon at yr Asiantaeth gais ysgrifenedig sy'n cynnwys—
(a) enw'r ceisydd;
(b) cyfeiriad y ceisydd;
(c) cyfeiriad y cyfleuster lle mae'r ceisydd yn bwriadu arbelydru bwyd;
(ch) manylion unrhyw drwydded neu gofrestriad o dan unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n galluogi'r ceisydd i ddefnyddio ymbelydredd ïoneiddio yn y cyfleuster o dan amgylchiadau lle byddai ei ddefnyddio felly, oni bai am y drwydded honno neu'r cofrestriad hwnnw, yn anghyfreithlon;
(d) disgrifiad o bob bwyd y mae'r ceisydd yn bwriadu ei arbelydru a hwnnw'n ddisgrifiad sy'n ddigon i ddangos bod y bwyd yn dod o fewn categori bwyd a ganiateir;
(dd) mewn perthynas â phob bwyd a ddisgrifir yn unol ag is-baragraff (d) —
(i) at ba ddiben y mae'r ceisydd yn bwriadu arbelydru'r bwyd a sut y byddai hynny o fudd i ddefnyddwyr;
(ii) y dull y mae'r ceisydd i'w ddefnyddio i sicrhau bod y bwyd mewn cyflwr rhesymol iachus cyn cael ei arbelydru;
(iii) y dogn cyfartalog cyffredinol, y dogn uchaf a'r dogn isaf o ymbelydredd ïoneiddio y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cymhwyso i'r bwyd;
(iv) y dull (gan gynnwys offeryniaeth ac amlder) y mae'r ceisydd yn bwriadu ei ddefnyddio i fesur unrhyw ddogn o ymbelydredd ïoneiddio a'r safon ddosimetreg y mae'n bwriadu ei defnyddio i galibradu'r mesuryddion dognau a ddefnyddir i'w fesur;
(v) datganiad ynghylch a yw'r ceisydd yn bwriadu arbelydru bwyd o'r disgrifiad hwnnw sydd mewn pecynnau sy'n cyffwrdd â'r bwyd ai peidio ac, os felly, y pecynnau y mae'r ceisydd yn bwriadu eu defnyddio; a
(vi) datganiad ynghylch a yw'r ceisydd yn bwriadu defnyddio dull rheoli tymheredd y bwyd wrth ei arbelydru ai peidio ac, os ydyw, ar ba dymheredd y mae'r ceisydd yn bwriadu cadw'r bwyd tra bo'r tymheredd yn cael ei reoli;
(e) mewn perthynas â phob bwyd a ddisgrifir o dan is-baragraff (d), fanylion sy'n dangos bod yr arbelydru i gydymffurfio ag Atodlen 1 a'r Cod Ymarfer Rhyngwladol a Argymhellwyd gan Gyd-gomisiwn Codex Alimentarius yr FAO a WHO ar gyfer gweithredu cyfleusterau arbelydru a ddefnyddir i drin bwydydd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon o'r Atodlen hon fel “y Cod Ymarfer”), cyfeirnod FAO/WHO/CAC, cyf. XV,argraffiad 1;
(f) plan o gynllun y cyfleuster, manylion ei ddyluniad a'i adeiladwaith a datganiad o'r arferion y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cymhwyso, gan gynnwys—
(i) y dull arfaethedig o arbelydru bwyd;
(ii) y math o ymbelydredd sydd i'w ddefnyddio;
(iii) y dulliau arfaethedig o reoli a threfnu'r busnes, gan gynnwys y cymwysterau gofynnol (p'un a ydynt yn rhai ffurfiol neu'n deillio o sgiliau, hyfforddiant neu brofiad) personau a fydd yn ymwneud â chymhwyso'r arferion;
(ff) gwybodaeth ynghylch pwy yw'r person sydd wedi'i ddynodi i fod yn gyfrifol am gydymffurfio â'r amodau sy'n angenrheidiol ar gyfer cymhwyso'r arferion y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (f), beth yw cymwysterau'r person hwnnw, a beth yw ei safle yn strwythur rheoli'r ceisydd;
(g) o ba ddyddiad y mae'r ceisydd yn dymuno i'r drwydded redeg; ac
(ng) unrhyw fanylion eraill y mae'r ceisydd yn dymuno bod yr Asiantaeth yn eu hystyried wrth benderfynu a ddylid rhoi'r drwydded.
2 
Caiff yr Asiantaeth roi trwydded pan fo wedi'i bodloni—
(a) bod y cyfleuster a bennir yn y cais yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer;
(b) bod pob bwyd a ddisgrifir yn y cais yn dod o fewn categori a ganiateir;
(c) bod angen technolegol rhesymol;
(ch) na fyddai'r arbelydru'n peri unrhyw berygl i iechyd ac y byddai'n cael ei gyflawni o dan yr amodau sy'n cael eu disgrifio yn y cais;
(d) y byddai'r arbelydru o fudd i'r defnyddiwr;
(dd) na fyddai'r arbelydru'n cael ei ddefnyddio yn lle arferion hylendid ac arferion iechyd nac yn lle arferion da ym maes gweithgynhyrchu neu amaethyddiaeth;
(e) mai unig ddibenion arbelydru yw —
(i) lleihau nifer yr achosion o glefydau sy'n cael eu cario mewn bwyd drwy ddinistrio organeddau pathogenig;
(ii) lleihau nifer yr achosion o ddifetha bwydydd drwy arafu neu stopio prosesau pydru a dinistrio'r organeddau sy'n difetha'r bwydydd;
(iii) lleihau nifer y bwydydd sy'n cael eu colli drwy aeddfedu, egino neu flaguro'n rhy gynnar; neu
(iv) gwaredu bwydydd rhag organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion;
(f) pan fo dibenion yr arbelydru'n cynnwys lleihau nifer yr achosion o glefydau sy'n cael eu cario gan fwyd drwy ddinistrio organeddau pathogenig, bod y ceisydd i ddefnyddio meini prawf microbiolegol wrth benderfynu a ddylid arbelydru bwyd;
(ff) nad oes unrhyw risg o bwys y gall y ceisydd arbelydru bwyd nad yw'n gallu cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd am resymau microbiolegol, neu nad yw'n gallu cydymffurfio â hwy heb gael ei arbelydru;
(g) bod pob dull a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(ii) o'r Rhan hon yn ddigon i alluogi'r ceisydd i sicrhau bod y bwyd mewn cyflwr sy'n rhesymol iachus cyn cael ei arbelydru;
(ng) bod y dogn cyfartalog cyffredinol a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iii) o'r Rhan hon mewn perthynas â phob disgrifiad o fwyd yn gyson â phob diben a bennwyd ar gyfer y digrifiad hwnnw o fwyd o dan baragraff 1(dd)(i);
(h) bod y dull a'r safon a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iv) o'r Rhan hon—
(i) yn cydymffurfio ag Atodlen 1; a
(ii) yn dileu unrhyw risg o bwys y bydd y dogn cyfartalog cyffredinol, a fesurir â'r dull hwnnw, yn gwyro'n sylweddol o'r dogn cyfartalog cyffredinol fel y'i diffinnir o dan baragraff 1 o Atodlen 1;
(i) bod y ffactorau a bennwyd o dan baragraff 1(dd) yn dileu unrhyw risg sylweddol y bydd y bwyd hwnnw, a arbelydrwyd mewn unrhyw becyn a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(v), ac ar unrhyw dymheredd a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(vi), yn methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd; a
(j) bod yr arferion a'r cymwysterau a bennwyd yn y datganiad o dan baragraff 1(f) yn ddigon i sicrhau na chaiff gofynion y Rheoliadau hyn nac unrhyw un o amodau'r drwydded eu torri.
3 
Pan fo'r Asiantaeth yn credu—
(a) y dylai gymryd i ystyriaeth weithrediad ymarferol y cyfleuster cyn iddo benderfynu'r cais yn derfynol; a
(b) na fyddai'n peryglu diogelwch pe câi bwyd ei arbelydru yn y cyfleuster am y tro,caiff roi trwydded am gyfnod, neu gyfnod pellach, nad yw ei gyfanswm yn fwy na 6 mis i'w alluogi i gymryd i ystyriaeth y gweithrediad hwnnw.
4 

(1) Pan fo'r Asiantaeth yn gwrthod rhoi trwydded, rhaid iddi roi i'r ceisydd ddatganiad ysgrifenedig am ei rhesymau dros wneud hynny a gwahodd y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig iddi o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y caiff y datganiad ei anfon.
(2) Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o'r fath—
(a) caiff yr Asiantaeth, os yw wedi'i bodloni ar y materion a bennwyd ym mharagraff o'r Rhan hon, roi trwydded; neu
(b) rhaid i'r Asiantaeth roi i'r ceisydd ddatganiad ysgrifenedig am ei rhesymau dros barhau i wrthod rhoi trwydded.
5 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd trwydded yn parhau i fod yn effeithiol oni chaiff ei chanslo neu ei hatal yn unol â darpariaethau Rhan 5 neu ei hildio gan y trwyddedai i'r Asiantaeth.
(2) Bydd trwydded o dan baragraff 3 yn parhau i gael effaith—
(a) hyd nes y bydd y cyfnod y cafodd ei rhoi amdano wedi dod i ben; neu
(b) hyd nes y bydd yr Asiantaeth yn gwrthod rhoi trwydded wrth iddi benderfynu'n derfynol ar y cais,
oni caiff ei chanslo neu ei hatal yn unol â darpariaethau Rhan 5 neu ei hildio gan y trwyddedai i'r Asiantaeth.
RHAN 2
1 
Rhaid i bob trwydded gynnwys—
(a) enw'r trwyddedai;
(b) cyfeiriad y cyfleuster trwyddedig;
(c) Rhif trwydded;
(ch) disgrifiad o bob bwyd y mae'r drwydded yn gymwys iddo;
(d) y dyddiad o ba bryd y mae'r drwydded i redeg; ac
(dd) yn achos trwydded o dan baragraff 3 o Ran 1, y dyddiad y daw i ben,a chaiff gynnwys amodau.
RHAN 3
1 

(1) Yr unig fwyd y caiff trwyddedai ei arbelydru yw bwyd—
(a) y mae'r drwydded yn gymwys iddo; a
(b) yn y cyfleuster trwyddedig.
(2) Rhaid i drwyddedai beidio ag arbelydru unrhyw fwyd a geir oddi wrth berson arall onid yw'r manylion canlynol ynghlwm wrth y bwyd neu'n dod gydag ef pan ddaw i law—
(a) disgrifiad o'r bwyd ac enw a chyfeiriad traddodwr y bwyd;
(b) cyfeirnod y mae modd adnabod drwyddo y bwyd, neu unrhyw swp, eitem neu lwyth o fwyd o'r un disgrifiad y mae'r bwyd yn dod odano;
(c) os yw'r bwyd wedi dod i law'r trwyddedai fel beilî—
(i) enw a chyfeiriad ei berchennog; a
(ii) y rheswm pam y mae ei berchennog am iddo gael ei arbelydru; ac
(ch) datganiad ynghylch a yw'r bwyd neu unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru.
2 
Rhaid i bob trwyddedai gadw—
(a) bwyd sy'n aros i gael ei arbelydru yn y cyfleuster trwyddedig mewn rhan o'r cyfleuster sydd wedi'i gwahanu â gwal neu atalfa oddi wrth unrhyw ran o'r cyfleuster lle mae bwyd sydd wedi'i arbelydru yn cael ei gadw ynddi; a
(b) pob bwyd sydd naill ai'n aros i gael ei arbelydru neu sydd wedi'i arbelydru mewn rhannau o'r cyfleuster sydd wedi'u gwahanu â gwal neu atalfa oddi wrth unrhyw ran o'r cyfleuster lle mae bwyd arall yn cael ei gadw wrth gynnal busnes.
3 

(1) Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd mewn cyfuniad ag unrhyw driniaeth gemegol sydd â'r un pwrpas â'i arbelydru.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd sydd wedi'i arbelydru, neu fwyd y mae unrhyw ran ohono wedi'i arbelydru, o'r blaen.
(3) Nid yw symud y bwyd ymaith o'r cyfleuster lle mae arbelydru yn digwydd, a'i ddychwelyd yno, yn golygu torri is-baragraff (2) lle maent yn rhan o broses barhaus sy'n ofynnol oherwydd dyluniad ac adeiladwaith y cyfleuster hwnnw.
4 
Rhaid i bob trwyddedai rifo pob swp bwyd y mae wedi'i arbelydru a phan fo unrhyw faint o'r bwyd wedi dod i law oddi wrth berson arall, rhaid iddo wneud hynny mewn ffordd sy'n golygu bod modd cysylltu'r Rhif â'r cyfeirnod a bennwyd ym mharagraff 1(2)(b) o'r Rhan hon.
5 
Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd ac eithrio gyda'r canlynol—
(a) pelydrau gama o'r radioniwclid 60Co;
(b) pelydrau gama o'r radioniwclid 137Cs;
(c) pelydrau-X a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 5 MeV; neu
(ch) electronau a gynhyrchir o ffynonellau peiriant a weithredir ar neu islaw lefel ynni o 10 MeV.
6 
Ni chaiff unrhyw drwyddedai arbelydru bwyd ac eithrio drwy ddefnyddio dulliau arbelydru priodol.
7 
Rhaid i bob trwyddedai gadw'r cyfryw rheolaethau a fydd bob amser yn sicrhau bod yr arbelydru'n gyson â'r dull mesur a bennwyd o dan baragraff 1(dd)(iv) o Ran 1.
8 
Rhaid i bob trwyddedai gofnodi, mewn perthynas â phob swp bwyd a arbelydrir ganddo, yr wybodaeth ganlynol—
(a) yn achos cyfleuster radioniwclid—
(i) o ran ffurfweddiad pob ffynhonnell o ymbelydredd ïoneiddio sydd ar gael i'w ddefnyddio yn y cyfleuster, unrhyw wybodaeth am ei sefyllfa sy'n dangos a oedd y swp bwyd yn agored iddo ac os felly pryd y digwyddodd hynny;
(ii) naill ai ar ba gyflymder y mae'r swp yn teithio drwy'r cyfleuster ac ar hyd pa lwybr y mae'r swp yn teithio tra bo'n mynd drwyddo neu'r amser y mae'r swp yn ei dreulio yn y parth arbelydru;
(b) yn achos ffynhonnell sy'n beiriant—
(i) lefel ei hynni;
(ii) ei cherrynt electron;
(iii) lled ei sganiwr;
(iv) nodweddion ei phelydr;
(v) onid oes ganddi ddyfais wasgaru, pa mor aml y mae ei phelydr yn sganio'r swp; a
(vi) ar ba gyflymder y mae'r swp yn teithio drwy'r cyfleuster.
9 

(1) Rhaid i bob trwyddedai gofnodi ar gyfer pob swp bwyd a arbelydrir ganddo—
(a) natur y bwyd sydd yn y swp a faint ohono sydd ynddo;
(b) y Rhif a roddwyd iddo o dan baragraff 4;
(c) enw a chyfeiriad pob traddodwr a thraddodai bwyd sydd yn y swp;
(ch) y dyddiad y cafodd y swp ei arbelydru;
(d) unrhyw wybodaeth ficrobiolegol sy'n ymwneud â bwyd yn y swp;
(dd) y math o becyn a oedd mewn cyffyrddiad â'r bwyd yn y swp yn ystod yr arbelydru;
(e) pan fo'r trwyddedai wedi defnyddio dull rheoli'r tymheredd wrth arbelydru'r bwyd, tymheredd y bwyd yn y swp yn union cyn iddo gael ei arbelydru;
(f) y dogn uchaf, y dogn isaf a'r dogn cyfartalog cyffredinol o ymbelydredd ïoneiddio a gymhwyswyd i'r swp;
(ff) y math o ymbelydredd ïoneiddio a ddefnyddiwyd;
(g) y data a ddefnyddiwyd i reoli'r arbelydru gan gynnwys—
(i) y modd y lleolwyd mesuryddion dognau yn y swp a'r dognau o ymbelydredd ïoneiddio a gofnodwyd ganddynt;
(ii) unrhyw brofion blaenorol a ddefnyddiwyd at ddibenion dilysu'r lleoli hwnnw; a
(iii) y dull (gan gynnwys offeryniaeth ac amlder) a ddefnyddiwyd i fesur y dognau o ymbelydredd ïoneiddio a gymhwyswyd yn ystod yr arbelydru, ac yn y profion blaenorol, a'r safon dosimetreg a ddefnyddiwyd i galibradu'r mesuryddion a ddefnyddiwyd i'w mesur.
(2) Rhaid i drwyddedai beidio â thraddodi bwyd a arbelydrwyd gan y trwyddedai i berson arall onid yw'r canlynol yn mynd gyda'r bwyd hwnnw—
(a) enw'r trwyddedai;
(b) Rhif trwydded y trwyddedai;
(c) yr wybodaeth a bennwyd yn is-baragraff (1)(a) i (ch); ac
(ch) y dogn cyfartalog cyffredinol sy'n ofynnol ei gofnodi gan is-baragraff (1)(f).
10 
Rhaid i bob trwyddedai gadw'r wybodaeth y mae'n ofynnol o dan baragraffau 8 a 9(1) ei chofnodi am 5 mlynedd, hyd yn oed os yw'r trwyddedai'n peidio â bod yn drwyddedig yn y cyfamser.
11 
Rhaid i bob trwyddedai anfon at yr Asiantaeth erbyn diwrnod olaf Chwefror bob blwyddyn ddatganiad ysgrifenedig ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf sy'n cynnwys—
(a) enw'r trwyddedai;
(b) Rhif trwydded y trwyddedai;
(c) y flwyddyn y mae'r datganiad yn ymwneud â hi;
(ch) disgrifiad o bob bwyd y mae'r trwyddedai wedi'i arbelydru yn ystod y flwyddyn; a
(d) maint pob bwyd o'r fath, yn ôl cyfaint neu bwysau.
RHAN 4
1 
Yn ddarostyngedig i baragraff 2, caiff yr Asiantaeth, ar gais y trwyddedai neu gyda'i gydsyniad, amrywio unrhyw un o amodau'r drwydded.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i'r Asiantaeth beidio â chytuno i amrywiad a fyddai'n caniatáu unrhyw weithred neu anwaith y byddai cynnig amdani neu amdano, petai wedi'i wneud yn y cais am drwydded, wedi peri i'r Asiantaeth wrthod rhoi trwydded o dan baragraff 2 o Ran 1.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid i'r Asiantaeth, wrth ystyried a ddylai amrywio trwydded, drin pob gwybodaeth wyddonol a fydd ganddi bryd hynny fel petai wedi'i chael pan roddodd y drwydded.
RHAN 5
1 
Os yw'r Asiantaeth yn credu bod amgylchiadau'n bodoli y byddai, petai wedi'u rhag-weld (a phetai wedi meddu ar yr un wybodaeth wyddonol ag sydd ganddi ar hyn o bryd) bryd hynny, wedi gwrthod, o dan baragraff 2 o Ran 1, roi'r drwydded odanynt, caiff rhoi hysbysiad i'r trwyddedai—
(a) yn esbonio pam y byddai wedi gwrthod rhoi'r drwydded; a
(b) yn hysbysu'r trwyddedai, oni fydd y trwyddedai'n wedi'i darbwyllo mewn ysgrifen i beidio â gwneud hynny o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl anfon yr hysbysiad, neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yn ei ganiatáu, y bydd yn canslo'r drwydded.
2 
Os na fydd yr Asiantaeth, erbyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau neu unrhyw gyfnod hwy a ganiatawyd o dan baragraff 1(b) wedi'i darbwyllo i'r gwrthwyneb, rhaid iddi hysbysu'r trwyddedai mewn ysgrifen bod y drwydded wedi'i chanslo o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad a rhaid iddi ddatgan yn yr hysbysiad pam nad yw wedi'i darbwyllo felly; ond os yw wedi'i darbwyllo felly, rhaid iddi hysbysu'r trwyddedai o hynny.
3 
Os caiff y drwydded ei chanslo, mae ei heffaith i beidio ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
4 

(1) Os yw'r Asiantaeth o'r farn bod, neu y gall fod, risg niwed i iechyd oni chaiff y drwydded ei hatal, caiff roi hysbysiad ysgrifenedig i'r trwyddedai yn atal y drwydded o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad ac, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), ni fydd unrhyw effaith i'r drwydded at ddibenion y Rheoliadau hyn o'r dyddiad hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), pan roddir hysbysiad yn atal y drwydded—
(a) mae effaith yr ataliad i beidio ar ddiwedd y cyfnod o dri diwrnod ar ôl rhoi hysbysiad o'r ataliad oni bai bod hysbysiad wedi'i roi yn y cyfamser i'r trwyddedai o dan baragraff 1; ond
(b) os yw hysbysiad wedi'i roi yn y cyfamser i'r trwyddedai o dan baragraff 1, mae'r ataliad i barhau hyd nes y bydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd—
(i) bod yr Asiantaeth yn cael ei darbwyllo i beidio â chanslo'r drwydded; neu
(ii) bod y drwydded yn dod i ben.
(3) Caiff yr Asiantaeth, os yw'n credu mai heb ataliad na fydd risg niwed i iechyd, dynnu'r hysbysiad sy'n atal y drwydded yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach.
RHAN
1 
Rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi yn y London Gazette hysbysiad o'r canlynol—
(a) pob trwydded a roddwyd;
(b) pob achos o atal trwydded;
(c) pob achos o ganslo trwydded; ac
(ch) pob amrywiad i delerau trwydded y cytunwyd arno.
2 
Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyhoeddir felly bennu—
(a) enw'r trwyddedai neu'r cyn-drwyddedai;
(b) y cyfleuster trwyddedig neu'r cyn-gyfleuster trwyddedig; ac
(c) Rhif ei drwydded,a rhaid iddo ddatgan yn fras beth yw effaith y mater y mae'n ymwneud ag ef.
3 
Ac eithrio fel a ddarperir gan adran 43 o'r Ddeddf (parhad wedi marwolaeth), nid yw trwydded yn drosglwyddadwy.
ATODLEN 3
Rheoliadau 3(1) a 5(1)(b)(i)


Rhif cyfeirnod swyddogol Enw a chyfeiriad
2110/91/0004 IBA Mediris SAZoning IndustrielB-6220 FleurusGwlad Belg
IR-01-CZ Artim spol. S.r.o.Radiová 1102 27 PragY Weriniaeth Tsiec
SN 01 Gamma-ServiceProduktbestrahlung GmbHJuri-Gagarin Strasse 15D-01454 RadebergYr Almaen
BY FS 01/2001 Isotron Deutschland GmbHKesselbodenstrasse 7D-85391 AllershausenYr Almaen
NRW-GM 01 a NRW-GM 02 BGS Beta-Gamma-Service GmbH & Co.KGFritz-Kotz-Str.16D-51674 WiehlYr Almaen
D-BW-X-01 Beta-Gamma-Service GmbH & Co. KGJohn-Deere-Strasse 3D-76646 BruchsalYr Almaen
500001/CU Ionmed Esterilización, SASantiago Rusiñol 12. MadridAntigua Ctra Madrid-Valencia Km 83.7.TarancónCuencaSbaen
5.00002/B ARAGOGAMMA S.A.Salvador Mundi 11, bajo.08017 BarcelonaCarretera Granollers a Carcadedu km 3,5.08520 Les Franqueses del VallésBarcelonaSbaen
13055 F Gammaster Provence SARue Jean QueillauMarché des ArnavauxF-13014 Marseille Cedex 14Ffrainc
01 142 F Ionisos SAZone Industrielle les ChartinièresF-01120 DagneuxFfrainc
72 264 F Ionisos SAZone Industrielle de l'AubréeF-72300 Sablé-sur-SartheFfrainc
85 182 F Ionisos SAZI MontifaudF-85700 PouzaugesFfrainc
10 093 F Ionisos SAZone IndustrielleF-10500 ChaumesnilFfrainc
91471 F Ionisos SADomaine de CorbevilleF-91400 OrsayFfrainc
56 015 F Radient OuestLe FlachecF-56230 BerricFfrainc
EU-AIF-04-2002 AGROSTER Besugárzó RészvénytársaságBudapest XJászberényi út 5H-1106Hwngari
RAD 1/04 IT GAMMARAD ITALIA SPAVia Marzabotto,4Minerbio (BO)Yr Eidal
GZB/VVB-991503 ac GZB/VVB-991393 Gammaster BVMorsestraat 3EdeYr Iseldiroedd
GZB/VVB-991503 ac GZB/VVB-991393 Gammaster BVSoevereinsestraat 2Etten-LeurYr Iseldiroedd
GIS-HZ-4434-W.-3/MR/03 Sefydliad Cemeg a Thechnoleg Niwclear16 Dorodna Str.03-195 WarsawGwlad Pwyl
GIS-HZ-4434-W.-2/MR/03 Sefydliad Cemeg Ymbelydredd GymhwysolPrifysgol Dechnegol Lodz15 Wróblewskiego Str.39-590 LodzGwlad Pwyl
EW/04 Isotron plcMoray RoadYstad Ddiwydiannol ElginSwindonWiltshire SN2 6DUY Deyrnas Unedig
ATODLEN 4
Rheoliad 5(1)(b)(ii)


Rhif cyfeirnod swyddogol Enw a chyfeiriad
EU-AIF 01-2002 HEPRO Cape (Pty) Ltd6 Ferrule AvenueMontague GardensMilnerton 7441Western CapeGweriniaeth De Affrica
EU-AIF 02-2002 Gammaster South Africa (Pty) LtdBlwch Post 32195 Waterpas StreetIsando Extension 3Kempton Park 1620JohannesburgGweriniaeth De Affrica
EU-AIF 03-2002 Gamwave (Pty) LtdBlwch Post 26406Isipingo BeachDurban 4115Kwazulu-NatalGweriniaeth De Affrica
EU-AIF 05-2004 Gamma-Pak ASYünsa Yolu N: 4 OSBCerkezköy/TEKIRDAGTR-59500Twrci
EU-AIF 06-2004 Studer Agg Werk HardHogenweidstrasse 2DänikenCH-4658Y Swistir
EU-AIF 07-2006 Y Ganolfan Arbelydru ThaiSefydliad Technoleg Niwclear Gwlad Thai (Corff Cyhoeddus)37 Moo 3, TECHNOPOLISKlong 5, Klong LuangPathumthani 12120Gwlad Thai
EU-AIF 08-2006 Isotron (Thailand) LtdParc Diwydiannol Bangpakong (Amata Nakorn)700/465 Moo 7, Tambon Donhuaroh,Amphur Muang,Chonburi 20000Gwlad Thai