
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2009, maent yn dod i rym ar 27 Gorffennaf 2009 ac yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “modrwy” (“ring”) mewnosoder y diffiniadau canlynol—“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 865/2006 sy'n gosod rheolau manwl ynghylch gweithredu Rheoliad y Cyngor;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 338/97 ynghylch gwarchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio'r fasnach ynddynt.”.
4 
Mae rheoliad 3 (Cofrestru) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(1) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) At ddibenion cofrestru unrhyw adar a restrir yn yr Atodlen, caiff y gofrestr y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) fod yn unrhyw gofrestr a gedwir gan Weinidogion Cymru sy'n rhestru'r adar y mae tystysgrif berthnasol wedi'i dyroddi ar eu cyfer.
(1B) O ran unrhyw adar sydd wedi'u rhestru neu sydd i'w rhestru mewn unrhyw gofrestr o fath y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1A)—
(a) nid yw paragraffau (2) a (5) yn gymwys; a
(b) nid yw paragraffau (1)(a)(iii), (c) ac (ch) a (2) o reoliad 4 yn gymwys.”.
(2) Ar ôl paragraff (6) ychwaneger—“
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “tystysgrif berthnasol” (“relevant certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir gan Weinidogion Cymru (fel yr awdurdod rheoli perthnasol) ac y cyfeirir ati yn Erthygl 10 o Reoliad y Cyngor.
(8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod rheoli perthnasol” (“relevant mana ement authority”) yw'r awdurdod yr hysbyswyd y Llywodraeth Adnau (o fewn ystyr Erthygl XX o CITES) ohono, o dan Erthygl IX(2) o CITES, fel un sydd wedi'i ddynodi'n unol ag Erthygl IX(1) o CITES i gyflawni swyddogaethau awdurdod rheoli at ddibenion rhoi trwyddedau neu dystysgrifau ar ran y Deyrnas Unedig yn unol â CITES.”.
5 

(1) Mae rheoliad 5 (Modrwyo a marcio) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae aderyn wedi'i farcio'n unol â'r paragraff hwn os yw wedi'i farcio'n unol â gofynion Erthygl 66 o Reoliad y Comisiwn ynghylch marcio sbesimenau.”.
6 
Mae'r Atodlen ganlynol wedi'i mewnosod—“
YR ATODLEN
Rheoliad 3(1A)


Enw cyffredin Enw wyddonol
Cudyll bach Falco columbarius
Hebog tramor Falco peregrinus”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
3 Gorffennaf 2009