
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn;
 “Byrddau newydd” (“new Boards”) yw'r Byrddau Iechyd Lleol hynny a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen;
 “hen Fyrddau” (“old Boards”) yw'r Byrddau Iechyd Lleol hynny a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen;
 ystyr “Bwrdd newydd perthnasol” (“relevant new Board”) mewn perthynas â hen Fwrdd a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yw'r Bwrdd newydd a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r hen Fwrdd hwnnw;
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Hydref 2009;
2 
Trosglwyddir unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen Fwrdd i'r Bwrdd newydd perthnasol ar y dyddiad trosglwyddo.
3 
Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau hen Fwrdd, i'r graddau na chyfeirir atynt yn erthygl 2, i'r Bwrdd newydd perthnasol gan gynnwys heb gyfyngiad y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen Fwrdd a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2009
YR ATODLEN
Erthygl 1(2)


Colofn 1 Colofn 2
Yr Hen Fwrdd Iechyd Lleol Y Bwrdd Iechyd Lleol Newydd
Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Caerffili Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Lleol Conwy Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Lleol Castell-Nedd Port Talbot Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr