
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn;
 ystyr “Bwrdd newydd perthnasol” (“relevant new Board”) yw mewn perthynas â hen ymddiriedolaeth a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen, y Bwrdd newydd a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;
 ystyr “Byrddau newydd” (“new Boards”) yw'r Byrddau Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 2 o'r Atodlen;
 ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Hydref 2009; ac
 ystyr “hen ymddiriedolaethau” (“old trusts”) yw Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r Bwrdd newydd perthnasol ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw yn effeithiol fel petai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogwyd felly a'r Bwrdd newydd perthnasol.
(2) Heb leihau effaith paragraff (1) uchod —
(a) trosglwyddir pob hawl, pŵer, dyletswydd a rhwymedigaeth o dan neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo, yn rhinwedd yr erthygl hon, i'r Bwrdd newydd perthnasol ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan, neu mewn perthynas â'r hen ymddiriedolaeth o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud gan neu mewn perthynas â'r Bwrdd newydd perthnasol.
(3) Nid yw paragraffau (1) na (2) yn lleihau effaith hawl unrhyw gyflogai i ddod â'i gontract cyflogaeth i ben os gwneir newid sylweddol er gwaeth i'w amodau gwaith, ond ni fydd y cyfryw hawl yn codi yn unig ar sail y newid o ran cyflogwr y mae'r erthygl hon yn ei beri.
3 
Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir pob eiddo, ac i'r graddau na chyfeirir atynt yn erthygl 2, bob hawl a rhwymedigaeth sydd gan yr hen ymddiriedolaethau i'r Byrddau newydd perthnasol, gan gynnwys heb gyfyngiad y ddyletswydd i lunio cyfrifon gweddilliol yr hen ymddiriedolaethau ac i gyflawni pob dyletswydd statudol sy'n perthyn i'r cyfrifon hynny.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2009
YR ATODLEN
Erthygl 1(2)


Colofn 1 Colofn 2
Hen Ymddiriedolaeth Bwrdd Newydd
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cwm Taf Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-orllewin Cymru Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal Iechyd Gwent Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro