
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009, ac maent yn dod i rym ar 15 Gorffennaf 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau, ym mhob man y mae'n digwydd—
 yn lle “awdurdod lleol” gosoder “awdurdod addysg lleol”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2009