
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2009 ac eithrio rheoliad 2(6)(b) a ddaw i rym ar 12 Hydref 2009 a rheoliad 2(5)(b) a (6)(ch) a ddaw i rym ar 26 Gorffennaf 2010.
2 

(1) Caiff Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 mewnosoder yn y man priodol y diffiniad canlynol —“
 ystyr “An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu” yw'r Cyngor Addysgu a sefydlwyd o dan adran 5 o Ddeddf Cyngor Addysgu 2001 (corff y mae ganddo swyddogaethau sy'n cyfateb â rhai'r Cyngor mewn perthynas â Gweriniaeth Iwerddon);”.
(3) Hepgorer rheoliad 4A.
(4) Ar ôl rheoliad 18, mewnosoder y rheoliad canlynol —“
18A 

(1) Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r Cyngor roi'r wybodaeth a geir yn Atodlen 2 mewn perthynas ag —
(a) athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig; neu
(b) person anghofrestredig y mae'n cadw cofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998,
i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu.
(2) Pan roddir gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu beidio â datgelu'r wybodaeth honno i unrhyw berson ac eithrio'r athro neu'r athrawes neu berson arall y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef neu â hi.”.
(5) Yn Atodlen 1 —
(a) ar ôl paragraff 22B mewnosoder y canlynol —“
22C 
Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.
22D 
Telerau unrhyw gyfyngiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu.”;
(b) ar ôl paragraff 24 ychwaneger y canlynol —“
25 
P'un a yw'r athro neu'r athrawes yn ddarostyngedig i gael ei fonitro neu ei monitro yn unol ag adran 24 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, ac os nad yw, p'un a yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i'w fonitro neu i'w monitro yn unol ag adran 26 o'r Ddeddf honno.”.
(6) Yn Atodlen 2 —
(a) ym mharagraff 11A ar ôl “yr Alban” mewnosoder “, An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu,”;
(b) ar ôl paragraff 12 mewnosoder y canlynol —“
12A 
Os yw'r person wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir ac sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006), datganiad i'r perwyl hwnnw.”;
(c) ar ôl paragraff 13B mewnosoder y canlynol —“
13C 
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.
13D 
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r athro neu'r athrawes o ganlyniad i unrhyw gamau disgyblu a gymerwyd gan An Chomhairle Mhúinteoireachta neu'r Cyngor Addysgu.”;
(ch) ar ôl paragraff 14 ychwaneger y canlynol —“
15 
P'un a yw'r person yn ddarostyngedig i gael ei fonitro yn unol ag adran 24 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, ac os nad yw, p'un a yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i'w fonitro yn unol ag adran 26 o'r Ddeddf honno.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Mehefin 2009