
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2009.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Gorffennaf 2009 ac eithrio erthygl 2(2)(a) a (3)(b) a ddaw i rym ar 12 Hydref 2009 ac erthygl 2(2)(b) a (3)(a) a ddaw i rym ar 26 Gorffennaf 2010.
2 

(1) Mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 o'r Atodlen,
(a) ym mharagraff 2 yn lle “adran 3(3)(a) i (c)” rhodder “adran 3(3)(aa), (b)”;
(b) ar ôl paragraff 3 mewnosoder y canlynol —“
3A 
Athrawon cymwysedig y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i'w monitro yn y modd a grybwyllir yn adran 24 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 yn unol ag adran 26 o'r Ddeddf honno.”.
(3) Yn Rhan 2 o'r Atodlen,
(a) ar ôl paragraff 19 mewnosoder y canlynol —“
19A 
A yw'r person yn ddarostyngedig i fonitro'n unol ag adran 24 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, ac os na, a yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi'r gorau i fonitro'n unol ag adran 26 o'r Ddeddf honno.”;
(b) ar ôl paragraff 22 mewnosoder y canlynol —
“22A 
Os yw'r person wedi'i wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant (o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006), datganiad i'r perwyl hwnnw.
(c) ar ôl paragraff 23B mewnosoder y canlynol —“
23C 
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i gamau disgyblu a gymerwyd gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon.
23D 
Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i gamau disgyblu a gymerwyd gan An Chomhairle Mhúinteoireacht neu'r Cyngor Addysgu a sefydlwyd o dan adran 5 o Ddeddf y Cyngor Addysgu, 2001 (corff y mae ganddo swyddogaethau sy'n cyfateb i rai'r Cyngor mewn perthynas â Gweriniaeth Iwerddon).”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Mehefin 2009