
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd) (Diwygiadau Ynghylch Ffliw Pandemig) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 8 Mai 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygier Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 fel a ganlyn.
(2) Mewnosoder ar ôl rheoliad 7 y rheoliad canlynol:“
7.A 
(Cyflenwi cyffuriau os digwydd pandemig)
“(1) Ni chaniateir codi ffioedd na'u hadennill o dan y Rheoliadau hyn ynglŷn â chyflenwad —
(a) a wneir—
(i) tra bydd clefyd yn bandemig, neu
(ii) wrth rag-weld bod clefyd ar ddigwydd yn bandemig
ac yn risg i iechyd dynol neu gyda'r posibilrwydd o fod yn risg i iechyd dynol; a
(b) sydd yn unol â phrotocol sy'n ymwneud â'r clefyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn erthygl 12F o Orchymyn Meddyginiaethau Presgripsiwn yn Unig (Defnydd Dynol) 1997 neu erthygl 8 o Orchymyn Meddyginiaethau (Gwerthu gan Fferyllfeydd ac yn Gyffredinol — Esemptiad) 1980.”.
3 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd i Ymwelwyr Tramor 1989, yn Rhan IV (clefydau eraill), ar ôl “Severe Acute Respiratory Syndrome” mewnosoder y cofnod canlynol—“
 Pandemic influenza (influenza caused by a new virus subtype that has an increased and sustained transmission during a global outbreak of influenza).”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Mai 2009