
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 28 Mai 2009.
2 
Mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio drwy roi'r paragraff a ganlyn yn lle paragraffau (7) ac (8) o reoliad 4—“
(7) Nid yw Rhan 3 (ac eithrio rheoliad 25) na Rhannau 4 i 9 yn gymwys o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a bennir yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned.”.
3 
Mae Rheoliadau Cynhyrchion Sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006 wedi eu dirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Ebrill 2009