
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 3) 2009.
2 
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
3 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 1 Medi 2009:
(a) adran 4 (dyletswydd i enwi plant nad ydynt yn derbyn addysg);
(b) adran 164 (gwybodaeth am blant sy'n derbyn addysg a gyllidir y tu allan i ysgol);
(c) adran 184 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth a nodir ym mharagraff (ch);
(ch) yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu yn Neddf Addysg 1996 yn adran 437(8) y diffiniad o “suitable education”.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Ebrill 2009