
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Benfro a Derwen (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2008
 ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Benfro a Derwen a sefydlwyd ar 1 Ebrill 1997;
 ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd unrhyw hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddynt yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod popeth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo yn yr erthygl hon.
3 
Ar y dyddiad trosglwyddo bydd holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a) y ddyletswydd i baratoi cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth ac i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b) eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1;
(c) elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
4 
Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008
ATODLEN 1
Erthygl 3(b)


Eiddo Deiliadaeth (a'r rhif teitl os yw'n gymwys)
Ysbyty
Wardiau Afallon ac Enlli, Ysbyty Cyffredinol Bronglais Lesddaliad
Bryngofal, Ysbyty'r Tywysog Philip Rhydd-ddaliad (WA253967)
Canolfan Adnoddau Dinbych-y-pysgod (y safle newydd) Rhydd-ddaliad (CYM180478)Rhydd-ddaliad (CYM19713)
Canolfan Gwennog, Canolfan Gwili a Llys Myddfai, Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru gan gynnwys tir y tu cefn Rhydd-ddaliad (WA857214)
Caebryn (Ysbyty Dydd Brynhaul, Ward Bryntawel a Ward Bryngolau), Ysbyty'r Tywysog Philip Lesddaliad
Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin Rhydd-ddaliad (WA899753)
Ysbyty De Sir Benfro, Doc Penfro Rhydd-ddaliad (WA633274)Rhydd-ddaliad (WA587373)
Ysbyty Llwyn Helyg, Hwlffordd Rhydd-ddaliad (WA633313)Rhydd-ddaliad (CYM176034)
Canolfannau Iechyd
Canolfan Iechyd Crymych Rhydd-ddaliad (WA632581)
Canolfan Iechyd Abergwaun Rhydd-ddaliad (WA633349)
Canolfan Iechyd Hakin, Aberdaugleddau Rhydd-ddaliad (WA633327)
Canolfan Gofal Iechyd Hwlffordd Rhydd-ddaliad (WA633330)
Canolfan Gofal Iechyd Aberdaugleddau Rhydd-ddaliad (WA633330)
Canolfan Iechyd Arberth Lesddaliad
Canolfan Iechyd Neyland Rhydd-ddaliad (WA633323)
Canolfan Iechyd Doc Penfro Rhydd-ddaliad (WA641351)
Clinigau
Clinig Brynmair, Heol Goring, Llanelli Rhydd-ddaliad (WA834631)
Llys Steffan, Llanbedr Pont Steffan (Clinig Llanbedr Pont Steffan) Lesddaliad
Clinig Elizabeth Williams, Llanelli Lesddaliad
Iechyd Meddwl
Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl Hafan Hedd, Castellnewydd Emlyn Rhydd-ddaliad (WA731941)
Amrywiol
Ysbyty Dydd Bro Cerwen a Sant Brynach, Hwlffordd Rhydd-ddaliad (WA633315)Rhydd-ddaliad (WA830438)
Uned Asesu Bro Myrddin, Caerfyrddin Rhydd-ddaliad (WA851547)
4, 8 a 9 Bryngolau, Llanelli Lesddaliad
Swyddfeydd Tîm Cymunedol Anawsterau Dysgu Capel Road, Llanelli Rhydd-ddaliad (WA834622)
Carmel a Phentargon, Dewi Sant, Caerfyrddin Rhydd-ddaliad (WA899753)
Cartrefle, Llanybydder Rhydd-ddaliad (WA834623)
10, Church Close, Begeli, Cilgeti Lesddaliad
Yr Hufenfa, Llangadog Lesddaliad
Tîm Cymunedol Anawsterau Dysgu Ceredigion, Aberaeron Lesddaliad
Derwen Gardens, Castellnewydd Emlyn Lesddaliad
Europa House, Charles Street, Aberdaugleddau Lesddaliad
13, Heol Goring, Llanelli Rhydd-ddaliad (WA502646)
Ysbyty Dydd Gorwelion, Aberystwyth Rhydd-ddaliad (WA723066)
7a, Y Stryd Fawr, Aberystwyth Lesddaliad
Haverfordia House, Hwlffordd Lesddaliad
Llys Meddyg ac Ael-y-bryn, Dewi Sant, Caerfyrddin Lesddaliad
Ysbyty Dydd Tŷ Helyg, Bronglais, Aberystwyth Rhydd-ddaliad (WA498237)
Pen-lan, Caerfyrddin Rhydd-ddaliad (WA913160)
Bloc Dewi Sant 18, Adran Ystadau, Caerfyrddin Lesddaliad
Ysbyty Dydd Sŵn-y-gwynt, Rhydaman Rhydd-ddaliad (WA544537)
Tir-y-garreg, Cydweli Rhydd-ddaliad (WA452133)
Canolfan Adnoddau Wellfield, Caerfyrddin Rhydd-ddaliad (WA834626)
Canolfan Adnoddau Hendy-gwyn ar Daf, Hendy-gwyn ar Daf Lesddaliad
Cartref Home, Rhydaman 
3 Derwen Deg, Porthyrhyd Lesddaliad
Glancleddau, Aberdaugleddau Lesddaliad
2 Cwrt Greville, Doc Penfro Lesddaliad
ATODLEN 2
Erthygl 3(c)

Cronfa Elusennol Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen (gan gynnwys is-elusennau) —Rhif Elusen 1049198.
