
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda (Diddymu) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.
2 
Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Pontypridd a Rhondda (Sefydlu) 1998, ac yn unol â hynny dirymir y Gorchymyn hwnnw.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2008