
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 15 Ebrill 2008.
2 
Mae Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn —
(a) yn erthygl 3, ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(1A) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn atodlen 1A.”;
(b) yn erthygl 3, hepgorer paragraff (6);
(c) mewnosoder yr Atodlen a ganlyn —“
ATODLEN 1A
1 
Cludo anifeiliaid o fewn menter ffermio unigol o dan un berchenogaeth.
2 

(1) Cludo anifeiliaid —
(a) rhwng yr un ddau bwynt;
(b) yn ystod un diwrnod; ac
(c) mewn cyfrwng cludo a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig,
os cydymffurfir ag erthygl 3 o ran y teithiau cyntaf ac olaf yn ystod diwrnod.
(2) Yn y paragraff hwn, mae cludo anifeiliaid yn digwydd yn ystod un diwrnod hyd yn oed os —
(a) dechreuir y daith olaf ond nas cwblheir ar y diwrnod dan sylw; a
(b) yn achos anifail carnog a fu'n cymryd rhan mewn digwyddiad a ddigwyddodd neu'n sy'n parhau i ddigwydd yn noswaith y diwrnod dan sylw, yw'r daith olaf yn dechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y digwyddiad hwnnw, p'un a yw'n dechrau cyn hanner nos ai peidio.
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy set o safleoedd gwerthu.
3 
Cludo anifeiliaid o'u mangre tarddiad i sioe da byw ac yn ôl, mewn amgylchiadau heblaw'r amgylchiadau a nodir ym mharagraff 2, os—
(a) yw'r cyfrwng cludo a ddefnyddir i gludo'r anifeiliaid hynny yn mynd yn uniongyrchol o'r safle tarddiad i'r sioe ac nad yw'n ymadael â'r sioe cyn y daith yn ôl;
(b) yr unig anifeiliaid ar y cyfrwng cludo yn y sioe yw'r anifeiliaid a gludodd i'r sioe;
(c) defnyddir y cyfrwng cludo yn unig i gludo, ar y daith yn ôl, anifeiliaid a gludwyd ynddo i'r sioe; ac
(ch) dychwelir y cyfrwng cludo o'r sioe yn uniongyrchol i'r safle tarddiad.
4 
Pan fo anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho o gyfrwng cludo yn unig er mwyn cael bwyd neu ddŵr, neu at ryw ddiben dros dro arall, ac yna eu hail-lwytho.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Mawrth 2008