
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Traffig (Canllawiau ar Lefelau Taliadau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 31 Mawrth 2008, ac mae'n gymwys i Gymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn: ystyr “y Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu” (“the Enforcement and Adjudication Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosbau, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the General Provisions Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008.
2 
Y canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol ar gyfer Cymru o dan Ran 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i awdurdodau gorfodi wrth osod lefelau taliadau ar gyfer tramgwyddau parcio yw'r rhai hynny a geir yn yr Atodlen.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2008
YR ATODLEN
Erthygl 2
1 

(1) Rhaid gosod taliadau cosb ar gyfer tramgwyddau parcio—
(a) ar gyfer tramgwyddau lefel uwch, ar y lefel a bennir yng ngholofn (2) yn un o'r bandiau yn Nhabl 1; ac
(b) ar gyfer pob tramgwydd arall, ar y lefel a bennir yng ngholofn (3) yn y band yn Nhabl 1 a ddewisir ar gyfer lefelau uwch o dramgwyddo.
(2) Rhaid gosod y lefel disgownt ar gyfer taliad cosb a delir yn gynnar (hynny yw o fewn 21 o ddiwrnodau yn achos taliadau cosb a osodwyd ar sail cofnod a gynhyrchwyd gan ddyfais a gymeradwyir o dan reoliad 6(1)(a) o'r Rheoliadau Gorfodi a Dyfarnu a 14 o ddiwrnodau ym mhob achos arall)—
(a) ar gyfer tramgwyddau lefel uwch, ar y lefel a bennir yng ngholofn (4);
(b) ar gyfer pob tramgwydd arall, ar y lefel a bennir yng ngholofn (5),
yn y band sy'n pennu lefelau'r taliadau cosb.
(3) Rhaid gosod lefel gordal taliad o dâl cosb wedi i dystysgrif codi tâl gael ei dyroddi—
(a) ar gyfer tramgwyddau lefel uwch ar y lefel a bennir yng ngholofn (6);
(b) ar gyfer pob tramgwydd arall ar y lefel a bennir yng ngholofn (7),
yn y band sy'n pennu lefelau'r taliadau cosb.

Tabl 1
(1) (2) (3) (4) (5) (6) (7)
Band Tâl cosb lefel uwch Tâl cosb lefel is Tâl cosb lefel uwch a delir yn gynnar Tâl cosb lefel is a delir yn gynnar Tâl cosb lefel uwch a delir ar ôl cyflwyno tystysgrif codi tâl Tâl cosb lefel is a delir ar ôl cyflwyno tystysgrif codi tâl
1. £60 £40 £30 £20 £90 £60
2. £70 £50 £35 £25 £105 £75
(4) Caiff awdurdod gorfodi osod taliadau cosb yn unol â gwahanol fandiau yn y tabl mewn gwahanol rannau o'i ardal, cyn belled â bod pob taliad ym mhob rhan o'i ardal yn cael ei osod yn unol â'r un band.
(5) “Tramgwyddau Lefel Uwch” yw'r rhai hynny a restrir yn yr Atodiad.
2 
Y rhai hynny a geir yn nhabl 2 yw'r taliadau y mae'n rhaid eu codi am symud ymaith, storio a gwaredu cerbydau a ganfyddir mewn ardal orfodi sifil.

Tabl 2
(1) (2) (3)
Eitem Math o daliad Swm y taliad
1. Y taliad am symud cerbyd ymaith £105.00
2 Y taliad am storio cerbyd £12 ar gyfer pob diwrnod, neu ran o ddiwrnod, pan fydd y cerbyd yn cael ei gadw
3. Y taliad am waredu cerbyd £50.00
3 
Rhaid i'r tâl taladwy o dan reoliad 9(2)(b) o'r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol ar gyfer rhyddhau cerbyd o afael dyfais i'w rwystro rhag symud fod yn £40.
4 
Nid oes dim yn y canllawiau hyn yn rhagfarnu nac yn effeithio ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan baragraff 8(3) o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i ganiatáu i awdurdod gorfodi i wyro oddi wrth y canllawiau hyn.
Atodiad
1 
Tramgwydd yn ymwneud â chyflawni trosedd y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(b) (cyfyngiadau aros a llwytho) i Atodlen 7 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”)
2 
Tramgwydd yn ymwneud â gadael y cerbyd mewn man parcio ar-y-stryd ac eithrio man a awdurdodir gan unrhyw orchymyn yn ymwneud â'r man parcio yn unrhyw un o'r achosion a ganlyn, neu oddi tano—
(a) heb fod yn dangos permit, taleb neu docyn talu ac arddangos;
(b) mewn man lle mae parcio wedi cael ei atal;
(c) pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i'w gwerthu;
(ch) pan nad yw'r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.
3 
Tramgwyddo'r gwaharddiad a osodir gan adran 85 (parcio dwbl etc.) o Ddeddf 2004.
4 
Tramgwyddo'r gwaharddiad a osodir gan adran 86 (troetffyrdd a ostyngwyd) o Ddeddf 2004.
5 
Tramgwydd sy'n cynnwys cyflawni trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(h) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (troseddau sy'n ymwneud â thraciau beicio).
6 
Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(g) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio Cerbydau Nwyddau Trymion ar leiniau ymyl, lleiniau canol neu droetffyrdd).
7 
Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(c) (peri i gerbydau aros ar groesfannau i gerddwyr neu gerllaw iddynt) neu 4(2)(i) (llinellau igam-ogam gerllaw croesfannau) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
8 
Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(i)(ii) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (marciau ar arosfannau bysiau neu fannau i fysiau sefyll ynddynt).
9 
Tramgwydd sy'n cynnwys trosedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(e) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio mewn mannau llwytho).
10 
Tramgwydd sy'n ymwneud â throsedd o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (mewn perthynas â man parcio oddi-ar-y-stryd) ac yn cynnwys unrhyw un neu rai o'r canlynol yn sgil gorchymyn yn eu gwahardd mewn perthynas â'r man parcio—
(a) pan fo'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i'w gwerthu;
(b) parcio mewn man cyfyngedig;
(c) parcio mewn man i bermit heb arddangos permit;
(ch) parcio mewn man parcio i berson anabl heb arddangos yn gywir fathodyn dilys person anabl;
(d) parcio cerbyd mewn man parcio pan nad yw'r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.