
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008. Deuant i rym ar 1 Ebrill 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£21.00” rhodder “£25.00”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
5 Mawrth 2008