
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (Cychwyn) (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru ac eithrio mewn perthynas ag awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007;
 ystyr “Deddf 1999” (“the 1999 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1999; ac
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
2 
Daw'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2008—
(a) adran 137;
(b) adran 140;
(c) adran 210; ac
(ch) adran 241, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Rhan 8 o Atodlen 18 i—
(i) adrannau 5 a 6(2)(c), (d) ac (l) o Ddeddf 1999;
(ii) y gair “5,” yn adran 28(2) o Ddeddf 1999;
(iii) y geiriau “Subject to subsection (5),” yn adran 21(4) o Ddeddf 2000; a
(iv) adran 21(5) o Ddeddf 2000.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2008