
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 19 Mawrth 2008.
(2) Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru mewn cysylltiad â chwestiwn perthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw cwestiwn o dan Reoliadau Addysg (Mân Dreuliau) 1997 ynghylch a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i gael grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu grant teithio o dan Ran III, o'r Rheoliadau hynny ac—
(a) sy'n codi mewn cysylltiad â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007; a
(b) sydd heb ei benderfynu ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
2 
Ar ddiwedd paragraff (3) rheoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006, mewnosoder “ar yr amod nad yw'r cwestiwn yn un y cyfeirir ato ym mharagraff (3) rheoliad 1 o Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2008”.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Mân Dreuliau) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a) ym mharagraff (2), yn lle “£13,431”, rhodder “£13,861”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle is-baragraffau (a) a (b), rhodder—“
(a) £86 pan na fo'r incwm perthnasol yn uwch na £12,864; a
(b) £44 pan fo'r incwm hwnnw'n uwch na £12,864, ond nad yw'n uwch na £13,861.”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (3), yn lle “£12,483”, rhodder “£12,877”; a
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn lle “£12,483”, rhodder “£12,877”; a
(ii) yn lle “£12,304”, rhodder “£12,698”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2008