
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 18 Mawrth 2008.
(2) Dim ond i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sy'n awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun y mae adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys ac mae'n cael effaith mewn perthynas â'r flwyddyn 2008—2009 a'r blynyddoedd ariannol sy'n dilyn.
2 
Mae'r dangosyddion perfformiad y cyfeirir atynt i fesur perfformiad pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru wrth iddynt arfer eu swyddogaethau wedi'u pennu drwy hyn yn—
(a) Atodlen 1 (Lleihau Risg a Diogelwch Cymunedol); a
(b) Atodlen 2 (Ymateb Effeithiol).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2008
ATODLEN 1
Erthygl 2


Cyfeirnod Dangosydd
FRS/RRC/S/001 
i) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth;
ii) Cyfanswm nifer y prif danau yr aed atynt fesul 10,000 o'r boblogaeth;
iii) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt ac a ddechreuwyd drwy ddamwain mewn anheddau fesul 10,000 o anheddau;
iv) Cyfanswm nifer y tanau yr aed atynt ac a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 10,000 o'r boblogaeth.
FRS/RRC/S/002 Nifer:
i) y marwolaethau a achoswyd gan danau fesul 100,000 o'r boblogaeth;
ii) y marwolaethau a achoswyd gan danau a ddechreuwyd drwy ddamwain fesul 100,000 o'r boblogaeth;
iii) y marwolaethau a achoswyd gan danau a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 100,000 o'r boblogaeth;
iv) yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau fesul 100,000 o'r boblogaeth;
v) yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau a ddechreuwyd drwy ddamwain fesul 100,000 o'r boblogaeth;
vi) yr anafiadau (ac eithrio gwiriadau rhagofal) sy'n deillio o danau a ddechreuwyd yn fwriadol fesul 100,000 o'r boblogaeth.
FRS/RRC/S/003 Cyfanswm nifer y tanau mewn mangreoedd annomestig fesul 1,000 o fangreoedd annomestig.
FRS/RRC/S/004 
i) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel Ymateb Argyfwng y Gwasanaethau Tân (“YAGT”)) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd o fewn y safon gwasanaeth pum-munud.
ii) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel YAGT) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd o fewn y safon gwasanaeth deng-munud.
iii) Nifer y cartrefi yn y dosbarth o risgiau sy'n uwch na'r cyfartaledd a'r dosbarth o risgiau sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd (fel y penderfynwyd ar y dosbarth hwnnw drwy fodel YAGT) ac a gafodd, yn y flwyddyn adrodd, asesiad risg diogelwch tân cartref ac sydd y tu allan i'r safon gwasanaeth deng-munud.
iv) Cyfanswm nifer y tanau mewn cartrefi lle'r oedd asesiad risg diogelwch tân cartref a/neu gweithgaredd cysylltiedig i leihau risg wedi'u cynnal o fewn dwy flynedd i'r tân.
ATODLEN 2
Erthygl 2


Cyfeirnod Dangosydd
FRS/EFR/S/001 Y ganran o danau mewn anheddau, sydd o fewn y safon gwasanaeth deng-munud fel y nodwyd gan bob Awdurdod Tân ac Achub, ac yr aed atynt o fewn deng munud.
FRS/EFR/S/002 Y ganran o danau mewn anheddau, y mae model Ymateb Argyfwng y Gwasanaethau Tân wedi nodi bod eu cyfradd anafiadau yn uwch na chwech, ac yr aed atynt o fewn pum munud.