
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 28 Chwefror 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985—
(a) Accord Mortgages Limited (Cwmni Rhif 02139881);
(b) Beacon Homeloans Limited (Cwmni Rhif 05304252);
(c) Morgan Stanley Bank International Limited (Cwmni Rhif 03722571).
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
14 Chwefror 2008