
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2008, daw i rym ar 8 Ionawr 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardaloedd llai ffafriol” (“less favoured areas”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
 mae i'r ymadrodd “hectar cymwys” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “eligible hectare” yn Erthygl 44(2) o Reoliad y Cyngor 1782/2003;
 ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1999, sydd wedi eu Rhif o 1 a 2, y mae'r naill gyfrol a'r llall wedi eu marcio â “Volume of Maps of less favoured farming areas in Wales” ac â Rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin, yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio Rheoliadau penodol;
 ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006;
 ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol sydd o fewn ardal lai ffafriol;
 ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig;
 ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael eu heffaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchu uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2008, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.
(3) Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net pan ffermir ef dan reolaeth gymwys yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (fel y crybwyllir yng nghofnod 4 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd y tir wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu yn 2007 (fel y crybwyllir yng nghofnod 5 yn y golofn honno), neu os oedd yn hectar cymwys yn 2007 (fel y crybwyllir yng nghofnod 6 yn y golofn honno), yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2008, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.
3 
Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2008.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2008
YR ATODLEN
Erthygl 2


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd Ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel) Buwch 437
Buchod bridio cig eidion  
 Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd buwch −104
 Ar dir arall buwch −99
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen −69
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 83
Mamogiaid:  
 Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd mamog −18
 Ar dir arall mamog −16
ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 3.30
Moch:  
 Hychod a banwesau torrog hwch neu fanwes 163
 Moch porc y pen 5
 Moch torri y pen 7.10
 Moch bacwn y pen 8.90
Dofednod  
 Ieir dodwy aderyn 2.30
 Brwyliaid aderyn 0.30
 Cywennod ar ddodwy aderyn 0.55
Tyrcwn Nadolig aderyn 5.85
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 111
Ffa hectar 125.72
Had porfa hectar 333
Rêp had olew hectar 92
Pys  
 Sych hectar 215.72
 Dringo hectar 294
Tatws:  
 Cynnar cyntaf hectar 2344
 Prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 2057
Betys siwgr hectar 387
Gwenith hectar 274
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau'r berllan hectar 2230
Ffrwythau meddal hectar 6800
4. Tir Porthiant
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd hectar Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006
5. Neilltir
Tir a oedd yn 2007 wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o Reoliad y Cyngor 1782/2003:  
 Tir dan anfantais ddifrifol hectar 12.57
 Tir dan anfantais hectar 24.96
 Pob tir arall hectar −70.54
6. Hectarau cymwys
Tir a oedd yn 2007 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 1782/2003, ac eithrio tir a oedd wedi ei neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o'r Rheoliad hwnnw:  
 Tir dan anfantais ddifrifol hectar 122.69
 Tir dan anfantais hectar 153.51
 Pob tir arall hectar 102.55
NODIADAU I'R ATODLEN


