
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2006.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
13 Rhagfyr 2008 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a) Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf fel y mae'n gymwys o ran Cymru, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
(b) adrannau 76, 77 a 78 i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 3 (gan gynnwys tramgwyddau a grëir mewn rheoliadau o dan y Bennod honno).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2008