
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2009.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Milheintiau a Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2008 fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 3, paragraph 1(dd), mewnosoder—“
(e) cynnal profion o dan bwynt 4(b)(i) o Ran D o Atodiad II i'r Rheoliad Ewropeaidd;
(f) cynnal profion o dan bwynt 4(b)(ii) o Ran D o Atodiad II i'r Rheoliad Ewropeaidd;
(ff) cynnal profion o dan bwynt 4(b)(iii) o Ran D o Atodiad II i'r Rheoliad Ewropeaidd.”
(3) Ar ôl rheoliad 3, paragraff 2(b), mewnosoder—“
(c) y person sydd â gofal daliad pan wneir profion mewn perthynas â'r gweithgareddau ym mharagraffau (1)(e), (1)(f) ac (1)(ff).”
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2008