
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), at unrhyw ddiben a osodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2009.
(3) Daw erthygl 8 i rym—
(a) at ddibenion gweithrediadau rhagarweiniol i unrhyw etholiad sydd i'w gynnal neu sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012, ar 15 Hydref 2011;
(b) at bob diben arall, ar ddiwrnod arferolethol cynghorwyr yn 2012.
(4) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2009, sef y dyddiad penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Map A” yw'r map sydd wedi'i farcio “Map A, Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008” ac sydd wedi'i adneuo yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “Map B” yw'r map sydd wedi'i farcio “Map B, Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008” ac sydd wedi'i adneuo yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “Map C” yw'r map sydd wedi'i farcio “Map C, Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008” ac sydd wedi'i adneuo yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
 ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 ;
 mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o fewn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; a
 pan ddangosir ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, llwybr troed, cwrs dwr neu nodwedd ddaearyddol cyffelyb, rhaid ei thrin fel petae yn rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd honno.
3 
Mae'r rhan honno o gymuned Llanharan a ddangosir fel ardal resog “A” ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pont-y-clun;
(b) yn ffurfio rhan o ward Cefnyrhendy yng nghymuned Pont-y-clun; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.
4 
Mae'r rhan honno o gymuned Llantrisant a ddangosir fel ardal resog “B” ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pont-y-clun;
(b) yn ffurfio rhan o ward Cefnyrhendy o fewn cymuned Pont-y-clun; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.
5 
Mae'r rhan honno o gymuned Llanharan a ddangosir fel ardal resog “C” ar Fap A—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llantrisant;
(b) yn ffurfio rhan o ward Tonysguboriau o fewn cymuned Llantrisant; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tonysguboriau.
6 
Mae'r rhan honno o gymuned Llanharri a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap B—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pont-y-clun;
(b) yn ffurfio rhan o ward of Maes-y-felin o fewn cymuned Pont-y-clun; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.
7 
Mae'r rhan honno o gymuned Pont-y-clun a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap C—
(a) yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llanhari;
(b) yn ffurfio rhan o ward Llanhari o fewn cymuned Llanharri; ac
(c) yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanhari.
8 
Yng nghymuned Pont-y-clun y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Cefnyrhendy yw 5, y nifer ar gyfer ward Groes-faen yw 1, y nifer ar gyfer ward Maes-y-felin yw 4 a'r nifer ar gyfer ward Meisgyn yw 1.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2008

