
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2008.
(3) Mae Rheoliadau 7 ac 8 yn dod i rym ar 1 Medi 2009.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008.
3 
Mae'r Prif Reoliadau wedi'u diwygio'n unol â'r Rheoliadau hyn.
4 

(1) Mae Rheoliad 3 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), yn lle “1 Chwefror 2008”, rhodder “12 Ionawr 2009”.
5 

(1) Mae Rheoliad 9 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)—
(a) yn lle “1 Medi 2008”, rhodder “1 Medi 2009”; a
(b) yn lle “28 Chwefror 2008”, ym mhob man y mae'n ymddangos, rhodder “1 Chwefror 2009”.
6 

(1) Mae Rheoliad 10 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (17) rhodder—“
(17) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009 yw 1 Chwefror 2009 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20(7) a 22(6), 1 Chwefror 2010.”.
7 

(1) Mae Rheoliad 22 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (3), rhodder—“
(3) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 17,640 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.”.
8 
Effaith yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yw rhoi'r ffigurau yn nhrydedd golofn y tabl yn lle'r ffigurau yn ail golofn y tabl lle maent yn ymddangos yn narpariaethau'r Prif Reoliadau sydd wedi'u gosod yn y golofn gyntaf.
9 
Mae Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008 wedi'u diwygio'n unol â rheoliad 10.
10 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3, hepgorer y geiriau “a Benthyciadau”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2008
YR ATODLEN
Rheoliad 8


Y ddarpariaeth yn y Prif Reoliadau Y ffigur presennol Y ffigur newydd
Rheoliad 25  
25(2) £10,000 £10,260
Rheoliad 27  
27(2) £3,705 £3,801
Rheoliad 28  
28(a) £2,580 £2,647
28(b) £2,580 £2,647
Rheoliad 29  
29(3) £1,470 £1,508
Rheoliad 30  
30(6)(a) £1,130 £1,159
30(6)(b) £3,385 £3,473
30(6)(c) £4,515 £4,632
30(6)(ch) £4,515 £4,632
30(6)(d) £5,650 £5,797
Atodlen 3 Rhan 2  
Paragraff 2(3) £1,100 £1,130
Paragraff 4(2)(c) £1,075 £1,130
Paragraff 7(2)(a) £9.50 £9.27
Paragraff 7(3)(a) £9.50 £9.27
Paragraff 7(4) £7,800 £7,997
Paragraff 7(5)(i) £7,800 £7,997