
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y'u gwneir.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007 fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 3 (eithriadau i'r gwaharddiad ar anffurfio), yn lle is-baragraffau (c) ac (ch) rhodder—“
(c) mewn amgylchiadau hylan;
(ch) yn unol ag arferion da; ac
(d) yn unol â rheoliad 5, pan fo'n gymwys”.
4 
Yn rheoliad 4(1) (cyflawni triniaethau gwaharddedig mewn argyfwng) hepgorer y geiriau “a warchodir”.
5 
Yn lle rheoliad 5 (personau sy'n cael rhoi triniaethau a ganiateir) rhodder—“
5 

(1) Ac eithrio'r triniaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), ni cheir rhoi unrhyw driniaeth, a ganiateir o dan reoliad 3 ac y mae Deddf Milfeddygon 1966 neu Orchymyn Milfeddygon (Esemptiadau) 1962 yn gymwys iddi, ac eithrio gan berson y caniateir iddo ei rhoi o dan y ddeddfwriaeth honno.
(2) Caniateir tocio cynffonau neu ysbaddu moch naill ai gan filfeddygon yn unig neu, pan nad yw'r anifeiliaid yn hyn na 7 diwrnod oed, gan berson sy'n brofiadol yn y technegau cysylltiedig a naill ai'n berson sy'n gyfrifol am yr anifail neu'n berson a gyflogir neu a gymerir ymlaen gan berson o'r fath i drin yr anifail.”.
6 

(1) Mae'r diwygiadau i Atodlen 1 (triniaethau a ganiateir) fel a ganlyn.
(2) Yn yr adran ar adar, yn lle'r rhestr o dan y pennawd “Triniaethau Adnabod” rhodder—“
 Microsglodynnu.
 Tagio gyddfau.
 Bylchu gweoedd.
 Tagio gweoedd.
 Tagio adenydd.
 Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.”.
(3) Yn yr adran ar ddefaid, yn lle'r rhestr o dan y pennawd “Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.” rhodder—“
 Ysbaddu.
 Casglu neu drosglwyddo embryonau drwy ddull llawfeddygol.
 Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
 Ffrwythloni laparosgopig.
 Trawsblannu ofa, gan gynnwys casglu ofa, drwy ddull llawfeddygol.
 Fasdoriad.”.
(4) Yn yr adran ar eifr, yn lle'r rhestr o dan y pennawd “Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.” rhodder —“
 Ysbaddu.
 Casglu neu drosglwyddo embryonau drwy ddull llawfeddygol.
 Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
 Ffrwythloni laparosgopig.
 Trawsblannu ofa, gan gynnwys casglu ofa, drwy ddull llawfeddygol.
 Fasdoriad.”.
7 

(1) Mae'r diwygiadau i Atodlen 4 (adar: gofynion wrth roi triniaethau penodol a ganiateir) fel a ganlyn.
(2) Yn union cyn paragraff 1 (ysbaddu) mewnosoder—“
A1 
Ac eithrio yn achos tocio pigau (pan fo darpariaethau paragraff 5 yn gymwys), ni chaniateir rhoi unrhyw driniaeth a restrir yn yr adran ar adar yn Atodlen 1 i adar sy'n ieir dodwy neu y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy, oni chedwir hwy ar sefydliadau sydd â llai na 350 o adar o'r fath.
A2 
Caniateir rhoi'r driniaeth i hwyaid a ffermir, yn unig, a hynny yn unig os rhoddir y driniaeth o fewn 36 awr ar ôl deor at ddibenion rhaglen gwella brîd.
A3 
Caniateir rhoi'r driniaeth i hwyaid a ffermir, yn unig, a hynny yn unig os rhoddir y driniaeth o fewn 36 awr ar ôl deor at ddibenion rhaglen gwella brîd.
A4 
Caniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir at ddibenion rhaglenni gwella brîd neu i brofi am bresenoldeb clefyd, yn unig.
Caniateir rhoi'r driniaeth i adar ac eithrio adar a ffermir at ddibenion cadwraeth yn unig (gan gynnwys addysg a rhaglenni bridio mewn caethiwed) neu ar gyfer ymchwil.
A5 
Caniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir at ddibenion rhaglenni gwella brîd neu brofi am bresenoldeb clefyd, yn unig.
Caniateir rhoi'r driniaeth i adar ac eithrio adar a ffermir at ddibenion cadwraeth yn unig (gan gynnwys addysg a rhaglenni bridio mewn caethiwed) neu ar gyfer ymchwil.”.
(3) Ym mharagraff 5 (torri pigau dofednod), yn lle'r geiriau “Ar ddofednod y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy ac a gedwir mewn sefydliadau gyda 350 neu ragor o ieir dodwy” rhodder “Ar ddofednod y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy ac a gedwir mewn sefydliadau gyda 350 neu ragor o ddofednod o'r fath neu ieir dodwy”.
8 

(1) Mae'r diwygiadau i Atodlen 5 (defaid: gofynion wrth roi triniaethau penodol a ganiateir) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff 1 (ysbaddu) mewnosoder—“
1A 
Rhaid rhoi anesthetig.”.
(3) Ar ôl paragraff 2 (gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen) mewnosoder —“
2A 
Ni cheir rhoi'r driniaeth ac eithrio fel rhan o raglen gwella brîd.
Rhaid rhoi anesthetig.
2B 
Rhaid rhoi anesthetig.”.
9 

(1) Mae'r diwygiadau i Atodlen 6 (geifr: gofynion wrth roi triniaethau penodol a ganiateir) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff 1 (ysbaddu) mewnosoder—“
1A 
Rhaid rhoi anesthetig.”.
(3) Ar ôl paragraff 2 (gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen) mewnosoder —“
2A 
Ni cheir rhoi'r driniaeth ac eithrio fel rhan o raglen gwella brîd.
Rhaid rhoi anesthetig.
2B 
Rhaid rhoi anesthetig.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2008