
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Profi a Phwerau Mynediad) (Cymru) 2008; mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym drannoeth diwrnod ei wneud.
2 
Mae twbercwlosis wedi'i bennu'n glefyd (“disease”) at ddibenion adran 62D (profion a samplau: pwer mynediad) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2008