
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) —
(a) hepgorer y diffiniad o “gorchymyn costau” ac “y Tribiwnlys”;
(b) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—“
 “y mae i'r ymadrodd “Tribiwnlys Haen Gyntaf” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007;”.
(3) Yn rheoliad 8 (hawliau i apelio) —
(a) ym mharagraffau (1) a (2) yn lle “Tribiwnlys”, ym mhob man rhodder “Tribiwnlys Haen Gyntaf” a
(b) ym mharagraff (3) yn lle “Tribiwnlys:” ac yn is-baragraffau (a) a (b) rhodder “bydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn diddymu'r apêl.”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2008