
1 

(1) Enw'r offeryn hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2008 a daw i rym ar 3 Tachwedd 2008.
2 
Mae'r offeryn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3 

(1) Diwygir Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (Diffiniadau) —
(a) hepgorer y diffiniadau o “y Rheoliadau Tribiwnlys” ac “y Tribiwnlys”;
(b) mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—“
 “y mae i'r ymadrodd “y Tribiwnlys Haen Gyntaf” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “the First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007;”;“
 “y mae i'r ymadrodd “Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “the Tribunal Procedure Rules” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007.”.
(3) Yn erthygl 11 (Apelau) —
(a) ym mharagraffau (1) a (5) yn lle “Tribiwnlys” rhodder “ Tribiwnlys Haen Gyntaf”;
(b) yn lle paragraff 2 rhodder—“
(2) Y mae Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys yn gymwys i apêl o dan baragraff (1) fel y maent yn gymwys i apêl o dan adran 79 o Ddeddf 1989 .”; ac
(c) hepgorer paragraffau (3) a (4).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2008