
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ; ac ystyr
 “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau 1986 yn unol â'r paragraffau a ganlyn o'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—“
 “income-related employment and support allowance” means an employment and support allowance, entitlement to which is based on section 1(2)(b) of the Welfare Reform Act 2007 (income-related employment and support allowance).”
(3) Yn rheoliad 13(2) (cymhwystra ar gyfer profion llygad))—
(a) hepgorer “or” ar ddiwedd is-baragraff (i); a
(b) ar ôl is-baragraff (n), mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—“
(o) he is in receipt of income-related employment and support allowance; or
(p) he is a member of the same family as a person in receipt of income-related employment and support allowance.”.
(4) Yn rheoliad 13(3)—
(a)  hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (b); a
(b) ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder y canlynol—“and
(d) in sub-paragraph (p) “family” has the meaning given to it by regulation 2 of the Employment and Support Allowance Regulations 2008.”.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau 1997 yn unol â'r paragraffau a ganlyn o'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 1(2) (Enwi, cychwyn a dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—“
 “income-related employment and support allowance” means an employment and support allowance, entitlement to which is based on section 1(2)(b) of the Welfare Reform Act 2007 (income-related employment and support allowance).”.
(3) Yn rheoliad 8(3) (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol)—
(a) hepgorer “or” ar ddiwedd is-baragraff (l); a
(b) ar ôl is-baragraff (n), mewnosoder y canlynol—“
(o) he is in receipt of income-related employment and support allowance; or
(p) he is a member of the same family as a person in receipt of income-related employment and support allowance.”.
(4) Yn rheoliad 8(4)—
(a) hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (b); a
(b) ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder y canlynol—“and
(d) in sub-paragraph (p) “family” has the meaning given to it in regulation 2 of the Employment and Support Allowance Regulations 2008.”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Medi 2008