
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Ad-dalu Rhent (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2008, a deuant i rym ar 4 Mawrth 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004.
2 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys os, yn ystod achos ar gais o dan is-adran (5) o adran 73 o'r Ddeddf (canlyniadau eraill ar weithredu HMOs didrwydded: gorchmynion ad-dalu rhent) neu is-adran (5) o adran 96 o'r Ddeddf (canlyniadau eraill ar weithredu tai didrwydded: gorchmynion ad-dalu rhent), daw i sylw'r awdurdod tai lleol ynghylch taliadau cyfnodol sy'n daladwy mewn cysylltiad â meddiannu rhan neu rannau o'r tŷ amlfeddiannaeth neu'r cyfan neu ran o'r tŷ y mae'r cais yn ymwneud ag ef y gall fod budd-dal tai wedi cael ei dalu nad oedd yn briodol daladwy.
(2) Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am ganiatâd i ddiwygio ei gais drwy roi yn lle cyfanswm y budd-dal tai a dalwyd, y rhan honno o'r swm hwnnw y mae'n credu sy'n briodol daladwy.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2) mae swm o fudd-dal tai yn briodol daladwy os yw'r person y telir ef iddo, neu y telir ef ar ei gyfer, â hawl iddo o dan Reoliadau Budd-dal Tai 2006 neu Reoliadau Budd-dal Tai (Personau sydd wedi cyrraedd yr oed cymwys ar gyfer pensiwn credyd y wladwriaeth) 2006 (p'un ai yn y penderfyniad cychwynnol neu fel y'i diwygiwyd neu y'i disodlwyd ar ôl hynny, neu fel y'i diwygiwyd ymhellach neu y'i disodlwyd ymhellach).
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff awdurdod tai lleol ddefnyddio swm a adenillwyd o dan orchymyn ad-dalu rhent at unrhyw rai o'r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Y dibenion yw ad-dalu costau a threuliau'r awdurdod (p'un ai gweinyddol neu gyfreithiol) a dynnwyd wrth, neu sy'n gysylltiedig â—
(a) gwneud y cais o dan adran 73(5) o'r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, adran 96(5) o'r Ddeddf;
(b) cofrestru a gorfodi unrhyw arwystl cyfreithiol o dan adran 74(9)(b) neu 97(9)(b) o'r Ddeddf ar yr eiddo perthnasol;
(c) ymdrin ag unrhyw gais am drwydded o ran yr eiddo perthnasol o dan Ran 2 o'r Ddeddf (trwyddedu HMOs) neu, yn ôl y digwydd, Rhan 3 o'r Ddeddf (trwyddedu dethol o lety preswyl arall);
(ch) erlyn y person priodol am dramgwydd o dan adran 72(1) o'r Ddeddf neu, yn ôl y digwydd, adran 95(1) o'r Ddeddf, o ran yr eiddo perthnasol (p'un a gychwynnir achos cyn neu ar ôl gwneud y gorchymyn);
(d) gwneud gorchymyn rheoli interim neu derfynol o dan Bennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf (gorchmynion rheoli interim a therfynol) o ran yr eiddo perthnasol (p'un a wneir y gorchymyn rheoli cyn neu ar ôl gwneud y gorchymyn ad-dalu rhent);
(dd) rheoli'r eiddo perthnasol tra bo gorchymyn rheoli interim neu derfynol mewn grym;
(e) cyflawni gwaith o ran yr eiddo perthnasol tra bo gorchymyn rheoli interim mewn grym; a
(f) paratoi cynllun rheoli o dan adran 119 o'r Ddeddf (cynlluniau rheoli a chyfrifon), neu gyflawni gwaith o dan y cynllun, tra bo gorchymyn rheoli terfynol mewn grym.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn awdurdodi defnyddio swm ar gyfer ad-dalu costau neu dreuliau awdurdod os cafodd y costau neu'r treuliau hynny eu talu eisoes gan neu ar ran y person priodol.
(4) Ym mharagraff (2), ystyr “yr eiddo perthnasol” yw tŷ amlfeddiannaeth neu dŷ y mae'r gorchymyn ad-dalu rhent yn berthnasol iddo.
4 
Rhaid talu swm a adenillir o dan orchymyn ad-dalu rhent nas defnyddir at ddiben a grybwyllir yn rheoliad 3(2), i Gronfa Gyfunol Cymru.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
6 Chwefror 2008