
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2008, daw i rym ar 3 Mawrth 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i'r ymadrodd “hectar cymwys” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “eligible hectare” yn Erthygl 44(2) o Reoliad y Cyngor 1782/2003;
 ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau wedi'u Rhif o 1 a 2 gyda phob cyfrol wedi'i marcio “Cyfrol o Fapiau ardaloedd ffermio llai ffafriol yng Nghymru” a chyda Rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999 wedi'i llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac wedi'i hadneuo yn Swyddfeydd Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor 1782/2003” (“Council Regulation 1782/2003”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac sy'n diwygio Rheoliadau penodol;
 ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â Rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006.
 ystyr “tir cymwys” (“eligible land”) yw'r rhan honno o'r tir cymhwysol sydd o fewn ardal lai ffafriol;
 ystyr “tir llai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir tan anfantais neu tir tan anfantais ddifrifol;
 ystyr “tir tan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir tan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir a ddangosir â lliw glas ar y mapiau dynodedig.
 ystyr “tir tan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir a ddangosir â lliw pinc ar y mapiau dynodedig;
2 

(1) Mae Paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon erthygl yn cael eu heffaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwrol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o Atodlen 1 gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2007, fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir gydag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.
(3) Os yw tir, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (fel a grybwyllir yng nghofnod 4 yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu yn 2006 (fel a grybwyllir yng nghofnod 5 yn y golofn honno), neu os oedd yn hectar cymwys yn 2006 (fel a grybwyllir yng nghofnod 6 yn y golofn honno), yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2007, fel yr incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.
3 
Dirymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2007.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Chwefror 2008
YR ATODLEN
Erthygl 2


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd Ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel) Buwch 416
Buchod bridio cig eidion  
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd buwch −53
Ar dir arall buwch −85
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen −50(1)
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 75(2)
Mamogiaid:  
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd mamog −2
Ar dir arall mamog 13
Wyn stôr (gan gynnwys wyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 3.70
Moch:  
Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes 174
Moch porc y pen 4.50
Moch torri y pen 6.70
Moch bacwn y pen 8.90
Dofednod  
Ieir dodwy aderyn 2.20
Brwyliaid aderyn 0.30
Cywennod ar ddodwy aderyn 0.45
Tyrcwn Nadolig aderyn 5.65
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 104
Ffa hectar 140.89(3)
Had porfa hectar 196
Rêp had olew hectar 112
Pys  
Sych hectar 224.89(3)
Dringo hectar 269
Tatws:  
Cynnar cyntaf hectar 2245
Prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 1521
Betys siwgr hectar 176
Gwenith hectar 255
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau'r berllan hectar 1800
Ffrwythau meddal hectar 6500
4. Tir Porthiant
Ar dir sy'n “dir cymwys” at ddibenion taliad Tir Mynydd hectar Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006
5. Neilltir
Tir a oedd yn 2006 wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o Reoliad y Cyngor 1782/2003:  
Tir tan anfantais ddifrifol hectar −14.75
Tir tan anfantais hectar −9.50
Pob tir arall hectar −105.00
6. Hectarau cymwys
Tir a oedd yn 2006 yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 1782/2003 ac eithrio tir a oedd wedi'i neilltuo rhag cynhyrchu o dan Erthygl 54(3) o'r Rheoliad hwnnw:  
Tir tan anfantais ddifrifol hectar 109.74
Tir tan anfantais hectar 127.50
Pob tir arall hectar 79.87
NODIADAU I'R ATODLEN
1. Y ffigur ar gyfer anifeiliaid y byddid yn eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata ohono.
2. Y ffigur ar gyfer anifeiliaid (waeth beth fo'u hoed) y byddid yn eu cadw am 12 mis yw hwn. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata ohono.
3. Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y premiwm cnwd protein y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 76 o Reoliad y Cyngor 1782/2003.