
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) (Cymru) 2008, daw i rym ar 3 Tachwedd 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2 

(1) At ddibenion adran 5(4) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (pŵer i gadw claf yn gaeth mewn ysbyty am fwyafswm o 6 awr) nyrs o'r dosbarth a ragnodwyd yw nyrs a gafodd ei chofrestru yn naill ai Is-ran 1 neu Is-ran 2 o'r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001, ar yr amod bod cofrestriad o'r nyrs yn cynnwys cofnod fel a bennir ym mharagraff (2).
(2) Mae cofnod yn y gofrestr y cyfeirir ato ym mharagraff (1) naill ai:—
(a) yn gofnod sy'n dangos mai maes ymarfer y nyrs yw nyrsio iechyd meddwl; neu
(b) yn gofnod sy'n dangos mai maes ymarfer y nyrs yw nyrsio anableddau dysgu.
3 
Dirymir Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) 1998 o ran Cymru.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2008