
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Eiriolwyr Annibynnol Iechyd Meddwl) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cleifion cymwys” (“qualifying patients”) yw'r personau hynny sy'n gymwys i gael cymorth gan EAIM o dan adrannau 130C(2), (3) a (4) o'r Ddeddf;
 ystyr “darparydd gwasanaethau eirioli” (“provider of advocacy services”) yw corff neu berson, gan gynnwys corff gwirfoddol, sy'n cyflogi personau y gellir peri eu bod ar gael i weithredu fel EAIM;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983; ac
 ystyr “EAIM” (“IMCA”) yw eiriolwr annibynnol iechyd meddwl.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y caiff Gweinidogion Cymru eu rhoi, bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn gwneud trefniadau y mae'n ystyried eu bod yn rhesymol er mwyn galluogi EAIMau i fod ar gael i weithredu mewn cysylltiad â chlaf cymwys sydd—
(a) yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig sydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;
(b) yn ddarostyngedig i warcheidiaeth o dan y Ddeddf neu sy'n glaf cymunedol ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer;
(c) yn gymwys o dan adran 130C(3) o'r Ddeddf ac sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer.
(2) Wrth wneud trefniadau o dan baragraff (1) caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eirioli.
(3) Ni chaiff unrhyw berson weithredu fel EAIM onid yw'r person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu onid yw wedi cael ei gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eirioli i weithredu fel EAIM.
(4) Cyn cymeradwyo unrhyw berson o dan baragraff (3) rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol gael ei fodloni bod y person yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4.
(5) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw ddarparydd gwasanaethau eirioli y mae'r Bwrdd yn gwneud trefniant ag ef o dan baragraff (2), yn unol â thelerau'r trefniant hwnnw, sicrhau bod unrhyw berson—
(a) a gyflogir gan y darparydd gwasanaethau eirioli hwnnw, a
(b) y perir ei fod ar gael i weithredu fel EAIM,
yn bodloni'r gofynion penodi yn rheoliad 4.
(6) At ddibenion rheoliad 2(2) o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 nid yw Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am wneud trefniadau'n unol â pharagraff (1) mewn perthynas â chlaf cymwys os yw'r claf cymwys hwnnw—
(a) fel arfer yn preswylio yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer; a
(b) yn agored i gael ei gadw'n gaeth mewn ysbyty neu mewn sefydliad cofrestredig nad yw yn yr un ardal y mae ef fel arfer yn preswylio ynddi
4 

(1) Y gofynion penodi yn rheoliad 3(4) a (5) yw–
(a) bod gan y person brofiad neu hyfforddiant priodol neu gyfuniad priodol o brofiad a hyfforddiant;
(b) bod y person yn meddu ar uniondeb a chymeriad da; ac
(c) y bydd y person yn gweithredu'n annibynnol ar unrhyw berson
(i) sy'n gofyn i'r person hwnnw ymweld neu gyf-weld â'r claf cymwys;
(ii) sy'n ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys.
(2) Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(a) rhoddir ystyriaeth i safonau mewn canllawiau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi o bryd i'w gilydd.
(3) At ddibenion paragraff (2) caiff safonau gynnwys unrhyw gymhwyster y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu eu bod yn briodol.
(4) Cyn gwneud penderfyniad at ddibenion paragraff (1)(b) mewn perthynas ag unrhyw berson, rhaid cael gafael ar y canlynol mewn cysylltiad â'r person hwnnw—
(a) tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997; neu
(b) os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol o'i herwydd yn un a ragnodir o dan is-adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno.
(5) At ddibenion adran 130A(5) nid yw person yn ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf cymwys
(a) os yw'n gweithredu, neu wedi gweithredu, fel EAIM i'r claf cymwys yn unol ag adran 130B o'r Ddeddf; neu
(b) os yw'n cynrychioli neu'n cynorthwyo, neu wedi cynrychioli neu gynorthwyo, claf cymwys heb fod yn unol ag adran 130B ond nad yw fel arall yn ymwneud â thriniaeth y claf cymwys.
(6) Yn y rheoliad hwn mae person yn cael ei gyflogi gan y darparydd gwasanaethau eirioli os yw'r person hwnnw—
(a) yn gyflogedig o dan gontract gwasanaeth; neu
(b) wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract am wasanaethau.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2008