
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “AGCLl” (“LSSA”) yw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru;
 ystyr “AGCLl sy'n cymeradwyo” (“approving LSSA”) yw'r AGCLl sydd wedi cymeradwyo'r person i fod yn GPIMC;
 ac eithrio yng nghyd-destun rheoliad 3, mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) yn cynnwys “ail gymeradwyo” (“re-approve”) ac “ail gymeradwyaeth” (“re-approval”);
 ystyr “cymwyseddau perthnasol” (“relevant competencies”) yw'r sgiliau a nodir yn Atodlen 2;
 mae i “Cyngor Gofal Cymru” yr ystyr a roddir i “Care Council for Wales” gan adran 54(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983;
 ystyr “gofynion proffesiynol” (“professional requirements”) yw'r gofynion a geir yn Atodlen 1;
 ystyr “GPIMC” (“AMHP”) yw gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y caiff AGCLl roi cymeradwyaeth i berson i fod yn GPIMC, os nad yw'r person hwnnw eisoes wedi ei gymeradwyo'n AGCLl o dan y Rheoliadau hyn, neu os nad yw wedi ei gymeradwyo felly o fewn y pum mlynedd flaenorol,—
(a) os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol;
(b) os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol; ac
(c) os yw'r person hwnnw wedi cwblhau o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf gwrs hyfforddi cychwynnol i GPIMCau a gymeradwywyd gan Gyngor Gofal Cymru.
(2) Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y caiff AGCLl roi cymeradwyaeth i berson i fod yn GPIMC, pan nad yw'r person hwnnw eisoes wedi ei gymeradwyo'n GPIMC o dan y Rheoliadau hyn ond pan yw wedi ei gymeradwyo i weithredu o ran Lloegr neu wedi ei gymeradwyo felly o fewn y pum mlynedd flaenorol—
(a) os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol; a
(b) os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol a fydd yn galluogi'r person hwnnw i weithredu yng Nghymru neu, yn niffyg hynny, bod y person yn cwblhau'r cyfryw gwrs hyfforddi ag y mae'r AGCLl sy'n cymeradwyo o'r farn bod ei angen i'w alluogi i wneud hynny.
(3) Wrth benderfynu a yw'r person sy'n ceisio cymeradwyaeth fel GPIMC yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol fel sy'n ofynnol o dan baragraffau (1)(b) neu (2)(b) uchod, rhaid i'r AGCLl roi sylw i dystlythyrau'r person hwnnw.
4 
Yn ddarostyngedig i reoliad 5, caiff AGCLl gymeradwyo person i fod yn GPIMC am gyfnod o hyd at bum mlynedd.
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bydd cymeradwyaeth GPIMC yn dod i ben cyn gynted ag y bydd y cyfnod o gymeradwyaeth wedi dod i ben.
(2) Bydd cymeradwyaeth person i fod yn GPIMC yn dod i ben cyn i'r cyfnod cymeradwyaeth ddod i ben yn yr amgylchiadau canlynol—
(a) os yw'r person hwnnw'n peidio â chyflawni swyddogaethau GPIMC ar ran AGCLl sy'n cymeradwyo;
(b) os yw'r person hwnnw'n methu â bodloni unrhyw un neu rai o'r amodau a atodwyd i'w gymeradwyaeth yn unol â rheoliad 7;
(c) os nad yw'r person hwnnw mwyach, ym marn yr AGCLl sy'n cymeradwyo, yn meddu ar y cymhwyseddau perthnasol priodol;
(ch) os nad yw'r person hwnnw mwyach yn bodloni'r gofynion proffesiynol;
(d) os bydd AGCLl arall yn cymeradwyo'r person hwnnw yn GPIMC;
(dd) os yw'r person hwnnw'n gwneud cais ysgrifenedig am i'r gymeradwyaeth ddod i ben.
(3) Ar ôl i gymeradwyaeth ddod i ben, rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo hysbysu unrhyw AGCLl arall y mae'n gwybod bod y person hwnnw wedi cytuno i weithredu fel GPIMC iddo o'r ffaith honno.
(4) Os bydd cymeradwyaeth person i fod yn GPIMC yn dod i ben yn yr amgylchiadau a ddarperir ym mharagraff (2)(d) uchod, rhaid i'r AGCLl newydd sy'n cymeradwyo hysbysu'r AGCLl blaenorol sy'n cymeradwyo o'r ffaith honno.
(5) Pan fo'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n dod â chymeradwyaeth GPIMC i ben o dan baragraff (2), rhaid i'r AGCLl hwnnw ysgrifennu ar unwaith i hysbysu'r person hwnnw o'r dyddiad y daw'r gymeradwyaeth i ben ac o'r rheswm am ddod â'r gymeradwyaeth i ben.
6 

(1) Os caiff GPIMC, ar unrhyw adeg ar ôl ei gymeradwyo, ei atal rhag bod ar gofrestr neu restr yn unol â bodloni gofynion proffesiynol fel sy'n ofynnol o dan reoliad 3(1), rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo atal cymeradwyaeth y person hwnnw'n tra pery cyfnod ei atal rhag bod ar gofrestr neu restr.
(2) Os atodir amodau i enw GPIMC ar gofrestr neu restr, yn ôl y digwydd, caiff yr AGCLl atodi i'w gymeradwyaeth y cyfryw amodau y mae o'r farn bod eu hangen, neu caiff atal y gymeradwyaeth.
(3) Pan fo'r cyfnod atal y gymeradwyaeth wedi dod i ben, bydd y gymeradwyaeth yn parhau'n weithredol am unrhyw gyfnod cymeradwyaeth nad yw wedi dod i ben, onid yw'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n dod ag ef i ben yn gynharach yn unol â rheoliad 5.
7 
Bydd unrhyw gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—
(a) rhaid i'r GPIMC gwblhau tra bydd yn parhau'n gymeradwy y cyfryw hyfforddiant ag y mae'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n ei wneud yn ofynnol ac yn ôl y cyfryw ysbeidiau ag y mae'r AGCLl yn penderfynu bod eu hangen ;
(b) rhaid i'r GPIMC ddarparu, er boddhad rhesymol yr AGCLl sy'n cymeradwyo a heb fod yn llai aml nag unwaith y flwyddyn ar ôl dyddiad ei gymeradwyo, dystiolaeth ei fod yn parhau i fod â'r cymhwysedd priodol i gyflawni swyddogaethau GPIMC;
(c) os yw'n cytuno i gyflawni dyletswyddau GPIMC ar ran AGCLl arall, rhaid i'r GPIMC hysbysu'n ysgrifenedig yr AGCLl sy'n cymeradwyo cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a rhaid ei hysbysu pan ddaw'r cyfryw gytundeb i ben;
(ch) os yw'r GPIMC yn cael ei gymeradwyo gan AGCLl gwahanol, rhaid i'r GPIMC hysbysu'n ysgrifenedig yr AGCLl sy'n cymeradwyo cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
(d) os nad yw mwyach yn bodloni unrhyw un neu rai o'r gofynion a geir yn rheoliad 3 neu yn reoliad 8 yn ôl y digwydd, rhaid i'r GPIMC hysbysu'r AGCLl sy'n cymeradwyo ar unwaith;
(dd) os caiff ei atal o fod ar gofrestr neu restr, yn ôl y digwydd, neu os atodir amodau i'w enw ar gofrestr neu restr, rhaid i'r GPIMC hysbysu'r AGCLl sy'n cymeradwyo ar unwaith.
8 

(1) Caiff AGCLl roi cymeradwyaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn i berson sydd wedi ei gymeradwyo o'r blaen yng Nghymru, a bod y cyfryw gymeradwyaeth wedi bod mewn grym o fewn y pum mlynedd flaenorol cyn dyddiad arfaethedig yr ail gymeradwyaeth yn yr amgylchiadau canlynol —
(a) os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol; a
(b) os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol.
(2) Wrth benderfynu a yw'r person sy'n ceisio cymeradwyaeth i fod yn GPIMC yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol fel sy'n ofynnol o dan baragraff (1)(b) uchod, rhaid i'r AGCLl roi sylw i dystlythyrau'r person hwnnw.
9 

(1) Rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo gadw cofnod o bob person y mae'n ei gymeradwyo'n GPIMC, gan gynnwys—
(a) ei enw;
(b) ei broffesiwn;
(c) y dyddiad y'i cymeradwywyd;
(ch) y cyfnod y rhoddir cymeradwyaeth ar ei gyfer;
(d) manylion ynghylch cwblhau unrhyw hyfforddiant y cyfeirir ato yn rheoliad 7(a);
(dd) tystiolaeth a roddwyd iddo gan y GPIMC o dan reoliad 7(b);
(e) enw pob AGCLl arall y mae'r cyfryw berson yn gweithredu fel G PIMC iddo;
(f) unrhyw fanylion am gymeradwyaeth yn dod i ben neu am atal cymeradwyaeth, neu am amodau a atodwyd iddi.
(2) Rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 uchod ac sy'n ymwneud â phersonau a gymeradwywyd ganddo'n GPIMCau am dair blynedd yn dilyn diwedd cymeradwyaeth y cyfryw bersonau.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Medi 2008
ATODLEN 1
Rheoliadau 2 a 3
1 
Er mwyn bodloni'r gofynion proffesiynol, rhaid i berson fod yn un o'r canlynol—
(a) yn weithiwr cymdeithasol a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru;
(b) yn nyrs lefel gyntaf, a gofrestrwyd yn Is-ran 1 o'r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001, gan gynnwys cofnod sy'n dynodi mai maes ymarfer y nyrs o ran nyrsio yw iechyd meddwl neu anableddau dysgu;
(c) yn therapydd galwedigaethol yn Rhan 6 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;
(ch) yn seicolegydd siartredig a restrir yng Nghofrestr Seicolegwyr Siartredig Cymdeithas Seicolegol Prydain ac sy'n dal tystysgrif ymarfer berthnasol wedi'i dyroddi gan y Gymdeithas honno.
ATODLEN 2
Rheoliad 3(4) a (5)
1.1 
Gallu nodi'r gofal iechyd a'r gofal cymdeithasol sy'n cyfyngu leiaf ar y rhai sy'n cael eu trin neu a all gael eu trin o dan y Ddeddf;
1.2 
Gallu nodi a herio camwahaniaethu ac anghydraddoldeb o bob math mewn perthynas ag ymarfer gan GPIMC a, phan fydd hynny'n ymarferol, gwneud iawn amdanynt;
1.3 
Deall amrywiaeth a'i barchu a gallu nodi a gwrthwynebu unrhyw benderfyniad a all fod wedi ei seilio ar ymarfer gormesol;
1.4 
Deall nodweddion, galluoedd a chefndir amrywiol unigolion a'u parchu;
1.5 
Deall materion yn ymwneud â hil a diwylliant a bod yn sensitif iddynt wrth gymhwyso gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd meddwl;
1.6 
Ystyried anghenion unigolion y mae'r Gymraeg yn ddewis iaith ganddynt;
1.7 
Gallu hybu hawliau, urddas a hunanbenderfyniad cleifion sy'n unol â'u hanghenion a'u dymuniadau hwy eu hunain, ac sy'n eu galluogi i gyfrannu at y penderfyniadau a gaiff eu gwneud sy'n effeithio ar ansawdd eu bywyd a'u rhyddid.
2.1 
Gwybodaeth briodol i gymhwyso'r canlynol wrth ymarfer ei waith a'r gallu i wneud hynny—
(a) deddfwriaeth iechyd meddwl, codau ymarfer cysylltiedg a chanllawiau polisi cenedlaethol a lleol, a
(b) rhannau perthnasol o ddeddfwriaeth arall, codau ymarfer, canllawiau polisi cenedlaethol a lleol, yn benodol Deddf Plant 1989, Deddf Plant 2004, Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Galluedd Meddwl 2005;
2.2 
Cymhwyso gwybodaeth am ddeddfwriaeth a pholisi sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg;
2.3 
Bod yn llwyr ymwybodol o sefyllfa ac atebolrwydd cyfreithiol GPIMCau mewn perthynas â'r Ddeddf, mewn perthynas ag unrhyw gorff cyflogi ac â'r awdurdod y maent yn gweithredu ar ei ran;
2.4 
Gallu gwerthuso'n feirniadol bolisi lleol a chenedlaethol a deddfwriaeth achos berthnasol er mwyn i hynny fod yn sail i ymarfer gan GPIMC;
2.5 
Gallu seilio ymarfer GPIMC ar werthuso'n feirniadol ystod o ymchwil sy'n berthnasol i ymarfer ar sail tystiolaeth, gan gynnwys ymchwil i'r effaith a gaiff profiad o gamwahaniaethu ar iechyd meddwl.
3.1 
Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol a chymhwysol o ystod o fodelau iechyd meddwl ac anhwylder meddwl, gan gynnwys y cyfraniad a wneir gan ffactorau cymdeithasol, corfforol a datblygiadol;
3.2 
Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol a chymhwysol o'r persbectif cymdeithasol ar anghenion anhwylder meddwl ac ar anghenion iechyd meddwl, wrth weithio gyda chleifion, perthnasau, gofalwyr a phroffesiynolion eraill;
3.3 
Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol a chymhwysol o oblygiadau anhwylder meddwl i gleifion, plant, teuluoedd a gofalwyr;
3.4 
Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol a chymhwysol o oblygiadau ystod o driniaethau ac ymyraethau perthnasol i gleifion, plant, teuluoedd a gofalwyr;
3.5 
Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol o'r adnoddau a allai fod ar gael i wneud darpariaeth amgen yn hytrach na derbyn claf i'r ysbyty.
4.1 
Gallu rhoi llais i'r persbectif cymdeithasol ar anghenion anhwylder meddwl ac iechyd meddwl, a'i ddangos yn ymarferol;
4.2 
Gallu cyfathrebu'n briodol â chleifion, perthnasau a gofalwyr, a sefydlu cydberthynas effeithiol â hwy;
4.3 
Gallu rhoi llais i swyddogaeth y GPIMC wrth gyfrannu at gydweithio effeithiol rhwng asiantaethau a rhwng proffesiynolion;
4.4 
Gallu defnyddio rhwydweithiau a grwpiau cymunedol i ddylanwadu ar weithio ar y cyd gydag ystod o unigolion, asiantaethau ac eiriolwyr;
4.5 
Gallu cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a rhoi ar waith opsiynau ar gyfer gofal, fel dewisiadau amgen yn hytrach na gorfodi claf i fynd i'r ysbyty, fel rhyddhau claf o'r ysbyty ac fel rhoi ôl-ofal i glaf;
4.6 
Gallu nodi risg, ei hasesu a'i rheoli'n effeithiol yng nghyd-destun swyddogaeth GPIMC;
4.7 
Gallu rheoli'n effeithiol sefyllfaoedd anodd o ran gorbryder, risg a gwrthdaro, sy'n adlewyrchu ar effaith bosibl y cyfryw sefyllfaoedd ar gleifion ac eraill;
4.8 
Gallu cydbwyso'r pŵer sy'n gynhenid yn swyddogaeth GPIMC gyda'r amcanion o rymuso cleifion;
4.9 
Gallu cynllunio, negodi a rheoli prosesau derbyn gorfodol i'r ysbyty, derbyn o dan warchodaeth neu drefniadau ar gyfer triniaeth o dan oruchwyliaeth yn y gymuned;
4.10 
Gallu rheoli a chydlynu'n effeithiol y prosesau perthnasol cyfreithiol ac ymarferol, a chynnwys wrth wneud hynny broffesiynolion eraill yn ogystal â chleifion, perthnasau a gofalwyr;
4.11 
Gallu cydbwyso a rheoli gofynion cystadleuol cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth yn effeithiol er lles cleifion a rhanddeiliaid eraill.
5.1 
Gallu arddel persbectif cymdeithasol ar broses gwneud penderfyniadau a gallu gwneud penderfyniadau annibynnol ar sail gwybodaeth briodol;
5.2 
Gallu caffael gwybodaeth briodol gan unigolion, ynghyd ag adnoddau eraill, eu dadansoddi a'u rhannu er mwyn rheoli'r broses o wneud penderfyniadau;
5.3 
Gallu darparu adroddiadau rhesymedig a chlir ar lafar ac yn ysgrifenedig er mwyn hybu proses gwneud penderfyniadau gan GPIMC sy'n broses effeithiol, atebol ac annibynnol;
5.4 
Gallu cyflwyno achos mewn gwrandawiad cyfreithiol;
5.5 
Gallu arfer eu swyddogaethau fel GPIMCau yn annibynnol, a chydag awdurdod ac awtonomi;
5.6 
Gallu gwerthuso gyda chleifion, gofalwyr ac eraill ganlyniadau ymyraethau, gan gynnwys nodi unrhyw angen nas bodlonwyd.