
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 2004.
2 
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2008:—
(a) Adran 51, (arolygiad o awdurdodau addysg lleol);
(b) Rhan 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) o Atodlen 5 (diddymiadau);
(c) Rhan 3 o Atodlen 5.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
16 Gorffennaf 2008