
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru (Diwygiadau Amrywiol) 2008 a daw i rym ar 1 Awst 2008.
2 

(1) Yn Adran 101(1)(bb) o Ddeddf Addysg 2002 yn lle “during the fourth key stage” rhodder y geiriau “during the third and fourth key stages”.
3 
Diwygir Adran 105(3) o Ddeddf Addysg 2002 fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (a), cyn “technology” mewnosoder “design and”;
(b) ar ôl paragraff (a) mewnosoder “(aa) information and communication technology,”,
(c) ym mharagraff (e), ar ôl “art” mewnosoder “and design”.
4 

(1) Diwygier Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn y diffiniad o “y pynciau sylfaen eraill” (“the other foundation subjects”) yn erthygl 3(1)—
(a) dileer y gair “technoleg” a rhodder yn ei le y geiriau “dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu,”; a
(b) ar ôl y gair “celfyddyd” mewnosoder y geiriau “a dylunio”.
(3) Yn erthygl 7(1) ar ôl y gair “celfyddyd” mewnosoder y geiriau “a dylunio, dylunio a thechnoleg a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu”.
(4) Dileer erthygl 7(2).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
16 Gorffennaf 2008