
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Dibenion Rhagnodedig a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2008, a deuant i rym ar 31 Awst 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae'r dibenion a ganlyn wedi eu rhagnodi fel dibenion y caiff corff llywodraethu ysgol a gynhelir wario ei gyfran o'r gyllideb arnynt —
(a) darparu addysgu i blant a phobl ifanc nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol;
(b) darparu deunyddiau dysgu, adnoddau addysgol, trafnidiaeth, prydau a llety ar gyfer plant a phobl ifanc nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol; ac
(c) mewn perthynas yn unig ag ysgolion meithrin a gynhelir, unrhyw ddarpariaeth addysgol neu arall a wneir ar gyfer plant ar fangre'r ysgol (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth o'r fath a wneir gan y corff llywodraethu o dan adran 27 o Ddeddf Addysg 2002), neu gymorth gweinyddol a ddarperir ar gyfer ysgolion meithrin eraill a gynhelir yn ardal yr un awdurdod addysg lleol.
3 
Mae'r dibenion hyn wedi eu rhagnodi yn ddarostyngedig i'r amod bod y corff llywodraethu yn cyflwyno i'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, erbyn 30 Gorffennaf bob blwyddyn, ddatganiad sy'n gosod manylion y ddarpariaeth a wnaed yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn unol â'r Rheoliadau hyn, a'r gwariant ar y ddarpariaeth honno.
4 
Mae Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 yn cael eu diwygio drwy ychwanegu'r paragraff a ganlyn ar ôl paragraff 36 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hynny—“
37 
Y fath eitemau o wariant ag a ragnodir gan reoliad 2 o Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Dibenion Rhagnodedig a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2008.”.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
11 Gorffennaf 2008