
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 1 Awst 2008.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 mae “cyfnod sylfaen” (“foundation stage”) i'w ddehongli yn unol ag adran 102 o Ddeddf Addysg 2002”.
(3) Yn rheoliad 5 yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y blynyddoedd ysgol 2008—2009 a 2009—2010 a gaiff ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy'n addysgu a staff nad yw'n addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), neu baratoi a chynllunio, ar gyfer y canlynol—
(a) cyflwyno'r cyfnod sylfaen;
(b) gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio o'r cyfnod sylfaen i'r ail gyfnod allweddol ac o un cyfnod allweddol i'r un nesaf neu o ysgol gynradd i ysgol uwchradd (gan gynnwys cynlluniau o'r fath y cyfeirir atynt yn adran 198 o Ddeddf Addysg 2002 os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu'r ysgol gymryd rhan mewn llunio cynllun o'r fath neu os yw'r corff llywodraethu yn disgwyl hynny);
(c) y newidiadau arfaethedig i Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru;
(ch) gweithredu'r cynigion sydd yng nghylchlythyr 37/2004 o dan y teitl “Llwybrau Dysgu 14—19” ar gyfer ymestyn ystod yr opsiynau dysgu sydd ar gael i bobl ifanc 14—19 oed (gan gynnwys datblygu rôl Anogwr Dysgu i gynorthwyo gyda dysgu pobl ifanc, a datblygu Cynllun Llwybrau Dysgu cynhwysfawr).”
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
1 Gorffennaf 2008