
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008.
(2) Daw darpariaethau'r Rheoliadau hyn i rym—
(a) ar 1 Awst 2010 o ran disgyblion yn nhrydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen; a
(b) ar 1 Awst 2011 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “cyfnod allweddol cyntaf” (“first key stage”) i'w ddehongli yn unol ag adran 103(1) o Ddeddf 2002;
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002; amae cyfeiriadau at y cyfnod sylfaen i'w dehongli'n unol ag adran 102 o Ddeddf 2002.
3 
Nid yw gofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer y cyfnod allweddol cyntaf fel y'u gosodir yn adran 105(1), (2), a (3) ac yn y Gorchmynion a wneir o dan adran 108(3) o Ddeddf 2002 i fod yn gymwys o ran disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yn ystod y blynyddoedd ysgol 2010 i 2011 a 2011 i 2012.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2008