
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 12) (Cymru) 2008.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
3 
1 Awst 2008 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 (darpariaethau sy'n dod i rym o ran Cymru a Lloegr) ac yn Rhan 2 (darpariaethau sy'n dod i rym o ran Cymru yn unig) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym arno.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2008
YR ATODLEN
Erthygl 3
RHAN 1

Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 99(2) Gofynion cyffredinol mewn perthynas â'r cwricwlwm
Adran 100(1)(b), (2)(b), (5) Dyletswydd i weithredu gofynion cyffredinol
Adran 101(3)(b) Y cwricwlwm sylfaenol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru
Adran 102 Y cyfnod sylfaen
Adran 104 Gofynion y cwricwlwm ar gyfer y cyfnod sylfaen
Adran 108(1)(a), (2), (6) Sefydlu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru drwy orchymyn
Adran 110 Rhoi ar waith mewn perthynas ag ysgolion meithrin etc
RHAN 2

Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 205 Cymhwyso Rhan 5 o Deddf Addysg 1996 i addysg feithrin
Adran 215 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlenni 21 a 22 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau
Atodlen 21, paragraff 46(6) Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Atodlen 22 Yn Atodlen 3, Rhan 3, diddymu — Deddf Addysg 1996, Adran 410 Diddymiadau