
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) “yw 1 Gorffennaf 2008;
 ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;
 ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru a sefydlwyd ar 25 Mehefin 2008.
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod—
(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (2) a (3) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a bernir gan yr erthygl hon.
3 
Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a) y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b) eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.
(c) elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
4 
Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Mehefin 2008
ATODLEN 1
Erthygl 3(b)


Eiddo Deiliadaeth Rhif Teitl os yw'n gymwys
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd-ddwyrain Cymru
Ysbyty Maelor, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD Rhydd-ddaliad WA870737CYM42719CYM237895CYM338301CYM402467
ALAC, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD Les-ddaliad WA577800
Athrofa Feddygol Wrecsam, Parc Technoleg Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD Les-ddaliad WA735281
Ysbytai Cymuned
Ysbyty Cymuned Y Waun, Oddi ar Stryd St John, Y Waun, LL14 5LN Rhydd-ddaliad WA690433
Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy, Lon yr Aradr, Glannau Dyfrdwy, CH5 1XS Rhydd-ddaliad WA665892WA665897WA665896WA8800203
Ysbyty Cymuned y Fflint, Hen Ffordd Llundain, Fflint, CH6 5HG Rhydd-ddaliad WA703713
Ysbyty Cymuned yr Wyddgrug, Llwyn Onn, Yr Wyddgrug, CH7 1XG Rhydd-ddaliad WA690437
Ysbyty Cymuned Treffynnon, Ffordd Helygain, Treffynnon, CH8 7TZ Rhydd-ddaliad WA703333
Ysbyty Pwylaidd Llannerch Banna, Ffordd Whitchurch, Llannerch Banna, LL13 0LH Rhydd-ddaliad CYM128343
Coed Celyn, a Sŵn Y Coed, Ffordd y Gelli, Wrecsam, LL11 1DY, Rhydd-ddaliad WA784910
Ysbyty Treffynnon (Y Bwthyn), Pen-y-Maes, Treffynnon, CH8 7UH Rhydd-ddaliad WA690436
Clinigau/ Canolfannau Iechyd
Clinig Cefn Mawr Cefn Mawr, Rhiwabon, LL14 3AE Rhydd-ddaliad WA693355
Canolfan Iechyd Rhosllannerchrugog Rhodfa'r Ffawydden, Rhosllannerchrugog, LL14 1AA Rhydd-ddaliad WA701596
Clinig Rhiwabon Stryd Fawr, Rhiwabon, LL14 6NH Rhydd-ddaliad WA690464
Canolfan Iechyd Brymbo, Stryd Offa, Brymbo, LL11 5AG Rhydd-ddaliad WA690452
Clinig Brynteg, Ffordd Darby, Brynteg, Wrecsam, LL11 6RN Rhydd-ddaliad WA690453
Clinig Coedpoeth, Ffordd yr Efail, Coedpoeth, Wrecsam, LL11 3NS Rhydd-ddaliad WA704909
Canolfan Iechyd Gresffordd, Rhodfa Poplys, Gresffordd, LL12 8EP Rhydd-ddaliad WA690474
Clinig Ffordd y Gelli Wrecsam, LL11 1DY Rhydd-ddaliad WA784910
Canolfan Iechyd Llai Lôn yr Ysgol, Llai LL12 0TR Rhydd-ddaliad WA703720
Clinig Ffordd Tywysog Charles, Wrecsam, Ffordd Tywysog Charles, Wrecsam, LL13 8TH Rhydd-ddaliad WA690471
Clinig Rhostyllen Stryd Iago, Rhostyllen, LL14 4AW Rhydd-ddaliad WA690462
Clinig Yr Orsedd, Y Llain, Yr Orsedd, LL12 0EA Rhydd-ddaliad WA610333
Clinig Brychtyn, Ffordd Neuadd Brychtyn, Brychtyn, CH4 0QQ Rhydd-ddaliad WA703724
Canolfan Iechyd Bwcle, Ffordd Padeswood, Bwcle, CH7 2JL Rhydd-ddaliad WA690473WA765301
Clinig Caergwrle Tŷ Cerrig, Caergwrle, LL12 9EY Rhydd-ddaliad WA693356
Clinig Cei Connah Canolfan Ddinesig, Lôn Wepre, Cei Connah,CH5 4HA Rhydd-ddaliad CYM199578
Clinig Pen y Ffordd Clos Melwood, Penyffordd, CH4 0NB Rhydd-ddaliad WA788256
Clinig Saltney, St David’s Terrace, Saltney Ferry, Ger Caer, CH4 0AF Rhydd-ddaliad WA690467
Clinig Sealand, 8 Rhodfa'r Cedrwydd, Sealand, CH5 1SE Rhydd-ddaliad WA690469
Tŷ Catherine Gladstone, Ffordd Penarlâg, Mancot, CH5 2EP Rhydd-ddaliad WA693350
Clinig y Fflint, Borough Grove, Y Fflint, CH6 7DR Rhydd-ddaliad WA690454
Clinig Maesglas Lôn yr Ysgol, Maesglas, Treffynnon, CH8 7HR Rhydd-ddaliad WA690456
Clinig Treffynnon, Lôn y Parc, Treffynnon, CH8 7UR Rhydd-ddaliad WA690458
Clinig Yr Wyddgrug Stryd y Brenin, Yr Wyddgrug, CH7 1LB Rhydd-ddaliad WA690460
Clinig Plas Madog, 51/52 Bodlyn, Ystâd Plas Madog, Acrefair, Wrecsam LL14 3HE Les-ddaliad 
Clinig Y Waun, Heol Yr Orsaf, Y Waun, LL14 5LS Les-ddaliad 
Clinig Glyn Ceiriog, Ffordd Newydd, Glyn Ceiriog, LL20 7HH Les-ddaliad WA884305
Canolfan Iechyd Owrtyn, Stryd Fawr, Owrtyn, LL13 0ED Les-ddaliad 
Clinig Hightown, Hightown, Wrecsam, LL12 0TR Les-ddaliad CYM26758
Clinig Ewlo, Woodside Close, Ewlo, CH5 3RP Les-ddaliad WA559996
Clinig Coedllai, Stryd Y Brenin, Coedllai CH7 4RG Les-ddaliad CYM26748
Clinig Mynydd Isa, Mercia Drive, Mynydd Isa, CH7 6UH Les-ddaliad CYM26760
Canolfan Iechyd Pen Y Maes, Stryd Y Ffawydd, Bryn Hyfryd , LL11 4UF Les-ddaliad 
Clinig Y Fferi, Campws Y Fferi, Gorllewin Ffordd Caer, Y Fferi, CH5 1SE Les-ddaliad 
Unedau Iechyd Meddwl
16 — 18 Ffordd Grosvenor, Wrecsam, LL11 1DU Rhydd-ddaliad WA703732WA708392
Canolfan Gynghori Glannau Dyfrdwy, Rhodfa Rowley, Shotton, CH5 1PP Rhydd-ddaliad WA690470
The Elms, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1BT Rhydd-ddaliad WA783179
Tŷ Celyn, Parc Busnes Acorn, Y Fflint, CH6 5YN Les-ddaliad 
Evolution Building, Ewlo, 1st Floor Suite, 1 Evolution, Parc Busnes Lakeside, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3XP Les-ddaliad 
C.D.S. 7 Ffordd Brighton, Rhyl, LL18 3EY Les-ddaliad 
Tir
Tir Tŷ'r Eos, Ffordd Caer, Wrecsam, LL11 2SJ Rhydd-ddaliad WA7884910
Tir Plas Madog, Ffordd Y Parc, Rhosymedre. Rhydd-ddaliad WA593623
Arall
Villa Romano, Ffordd y Gelli, Wrecsam LL11 1DY Les-ddaliad 
HSDU, Uned A, Parc Technoleg Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD Les-ddaliad 
Tŷ Clwydian, Block B, Tŷ Clwydian, Parc Technoleg Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam LL13 7TD Les-ddaliad 
ATODLEN 2
Erthygl 3(c)

Cronfa Elusennol Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru (gan gynnwys is-elusennau) — Rhif 1051063
