
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofal Plant 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006.
2 
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 31 Ionawr 2008:—
(a) Adrannau 22 i 29, mewn perthynas â swyddogaethau cyffredinol Awdurdodau Lleol yng Nghymru;
(b) Adran 30 (dehongli Rhan 2);
(c) Adran 101 (darparu gwybodaeth am blant: Cymru);
(ch) Adran 102 (datgymhwysiad ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Plant 1989).
3 
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2008:—
(a) Adran 103(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau paragraff 28 o Atodlen 2 y nodir yn Erthygl 3(b) isod;
(b) Paragraff 28 o Atodlen 2.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
8 Ionawr 2008